Main content

Norah Isaac

Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio â phobl am Norah Isaac, ei dylanwad a'i chariad at y Gymraeg. Llŷr Gwyn Lewis learns more about Norah Isaac and her passion for the Welsh language.

Mae'n addas iawn mai Llwybrau oedd enw cartref Norah Isaac o ystyried iddi droedio sawl llwybr a gadael ei hôl yn drwm ar bob un ohonyn nhw.

Yn y rhaglen hon, mae Llŷr Gwyn Lewis yn cael darlun clir ohoni fel dynes egnïol a phenderfynol, ond caredig a dylanwadol hefyd.

Mae'n cael cwmni John Meredith, un o ddisgyblion cyntaf yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru, sydd ag atgofion melys iawn ohoni fel prifathrawes yn cadw trefn yn Ysgol Gymraeg yr Urdd yn Aberystwyth.

Mae hefyd yn clywed am ei dylanwad ar genedlaethau o fyfyrwyr, gan gynnwys Iestyn Garlick a Cefin Roberts. Oedd, roedd yn medru dychryn pobl, ond mae'n amlwg fod y ddau yn meddwl y byd ohoni.

Doedd y Prifardd Mererid Hopwood ddim yn un o'i myfyrwyr, ond daeth y ddwy yn ffrindiau agos yng Nghaerfyrddin. Yn wir, doedd llun o Gadair hanesyddol Eisteddfod Genedlaethol 2001 ddim yn ddigon i Norah Isaac - roedd yn rhaid mynd â hi ati er mwyn iddi gael ei gweld â'i llygaid ei hun.

Cawn ddarlun o ddynes a oedd yn eiddil o gorff, ond a oedd hefyd yn benderfynol o lynu wrth ei hegwyddorion a'i dulliau hi o ddysgu a dylanwadu ar y rhai o'i chwmpas.

Ar gael nawr

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 12 Ebr 2018 12:30

Darllediadau

  • Gwen 4 Tach 2016 12:30
  • Maw 27 Rhag 2016 18:00
  • Iau 12 Ebr 2018 12:30

Oriel