Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Diogelwch Seiclo

Ar 么l cynnydd yn nifer y damweiniau difrifol yn ymwneud 芒 seiclo, sut mae osgoi rhagor? Manylu investigates cycling safety in Wales.

Ar 么l cynnydd o 50% dros bum mlynedd yn nifer y damweiniau difrifol yn ymwneud 芒 beicwyr yng Nghymru, mae galwadau wedi bod am godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch a rhagor o wariant gan Lywodraeth Cymru i wella rhwydwaith beicio'r wlad. Ond ai rhagor o feicwyr ar y ffyrdd neu ddiffyg gofal sy'n gyfrifol am y cynnydd hwn?

Mae elusen Sustrans yn dweud bod cynnydd enfawr yn nifer y beicwyr ar ein ffyrdd yn golygu bod diffygion yn y cyfleusterau ar eu cyfer yn dod yn fwyfwy amlwg.

Mae 107 o bobl y flwyddyn wedi cael damwain feic ddifrifol yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf o gymharu 芒 70 yn y pum mlynedd flaenorol. Oherwydd hynny, mae rhai am weld newid agwedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Yng Nghaergrawnt, er enghraifft, y nod ydi helpu seiclwyr a lleihau'r traffig ar yr un pryd. Mae bron i 33% o boblogaeth Caergrawnt yn reidio eu beic i'r gwaith. Dim ond 3% sy'n gwneud yng Nghaerdydd.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gwario 拢4 y pen ar hyrwyddo a hwyluso beicio a cherdded, ond mae gwariant yn nes at 拢20 y pen mewn dinasoedd Ewropeaidd fel Amsterdam a Copenhagen.

Er hynny, mae Cymru ar flaen y gad mewn un ffordd wedi i ddeddf sy'n arloesol i wledydd Prydain - y Ddeddf Teithio Llesol - gael ei sefydlu yma dair blynedd yn 么l. Bwriad y ddeddf, yn 么l Llywodraeth Cymru, ydi gwneud cerdded a seiclo'n weithgareddau naturiol bob dydd yng Nghymru. Mae 拢11 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer cynlluniau lleol eleni, a thros 拢1.5 miliwn ar gyfer prosiectau ar briffyrdd.

Cyflwynydd: Bryn Jones.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 30 Hyd 2016 16:00

Darllediadau

  • Iau 27 Hyd 2016 12:30
  • Sul 30 Hyd 2016 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad