Clymbleidio a rhywioldeb
Trafodaeth wleidyddol yng nghwmni Vaughan Roderick a'i westeion, gan gynnwys sylw i glymbleidio cyn etholiad y Cynulliad. Political discussion with Vaughan Roderick and guests.
Wrth i'r pleidiau baratoi ar gyfer etholiad y Cynulliad, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod proses clymbleidio - rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o'r tirlun gwleidyddol ym Mae Caerdydd ers yr etholiad cyntaf yn 1999. Hefyd, a ydi diddordeb y wasg a'r cyfryngau yn stori'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn arwydd mai byd y campau ydi cadarnle olaf agweddau negyddol tuag at bobl hoyw? A pha noson ydi'r ffefryn - Calan Gaeaf neu Guto Ffowc? Mae Vaughan Roderick yn cael cwmni'r newyddiadurwraig Sian Morgan Lloyd, y cyn-ddirprwy brif weinidog Ieuan Wyn Jones ac Elizabeth Evans - darpar ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion yn etholiad y Cynulliad.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Gwen 30 Hyd 2015 12:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.