Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ionawr

Lansio'r Caernarfon Herald a chofio'r bocsiwr Howard Winstone sydd ymysg yr atgofion. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Ionawr sy'n cael sylw John Hardy yn ei ymweliad wythnosol ag archif Radio Cymru.

Cawn hanes lansio'r Caernarfon Herald yn 1831 gan Maldwyn Thomas, a hefyd hanes Trychineb Rheilffordd Aber-miwl yn 1921 gan Owen Burton James.

Mae Brin Davies , Cross Hands, yn cofio cyfarfod Mahatma Gandhi, a fu farw ym mis Ionawr 1948, tra bod Miss Harris Jones a Miss Parry Williams, Rhuthun, yn cofio'r ymgyrchydd dros y Gymraeg Emrys ap Iwan, a fu farw yn Ionawr 1906.

Ac yna Wynford Jones sy'n hel atgofion am weld y bocsiwr Howard Winstone yn ennill Coron Pwysau Plu y Byd yn Ionawr 1968.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 10 Ion 2018 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 7 Ion 2018 13:00
  • Mer 10 Ion 2018 18:00