Achub y Gwasanaeth Ambiwlans?
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.
Yr wythnos hon mae Manylu yn datgelu fod y gwasanaeth ambiwlans wedi methu a chyrraedd 65% o'r galwadau mwyaf brys o fewn 8 munud unwaith eto ym mis Medi. Dim ond unwaith mewn dwy flynedd mae’n nhw wedi cyrraedd y targed erbyn hyn. A oes angen ail edrych ar y targed?
Ydi'r sefyllfa bresennol yn rhoi gweithwyr y gwasanaeth dan straen?
Bydd pennaeth newydd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn siarad â'r rhaglen a fe glywn ni gwyn gan ddau deulu sydd wedi cael profiad o aros dros awr am ambiwlans yng nghefn gwlad Cymru.
Eisoes mae un teulu - Sarah a Rhian Evans - wedi cwyno am yr oedi ar ôl i'w mham, Janet Evans, syrthio yn ei chartref yn Nolgellau ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cadarnhau fod ymchwiliad ar y gweill i'w cwyn.
Ac yn ei chyfweliad cynta’ fel Prif Weithredwr newydd dros dro yr Ymddiriedolaeth mae Tracy Myhill yn dweud fod angen edrych ar y targed 8 munud i ystyried a yw’r targed yn addas.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Clip
Darllediadau
- Iau 23 Hyd 2014 12:31Â鶹Éç Radio Cymru
- Sul 26 Hyd 2014 19:00Â鶹Éç Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.