25/04/2014 Oes angen i chwaraeon fod yn gystadleuol a be sy'n gwneud i bobl wirfoddoli tramor?
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Garry Owen.
Be sy'n sbarduno pobl i fynd i wirfoddoli ochr draw y byd? Mae hi'n ddiwrnod malaria heddiw. Ac mae un elusen o Gymru yn rhan o'r ymdrech i atal y clefyd yn Uganda gydag aelodau yn teithio yno i wirfoddoli i helpu. Fe fyddwn ni'n clywed storiau y rhai sy'n codi pac ac yn mynd dramor i helpu eraill. Pam eu bod nhw'n gwneud? Faint o help sydd ar gael? Beth yw'r manteision a beth yw'r problemau?
Hefyd heddiw. Dydi bod yn gystadleuol ym myd chwaraeon ddim yn siwtio pawb. Os nad yw plentyn yn cael hwyl pan yn chware p锚l-droed neu hoci ...beth yw'r pwynt? Neu ydy bod yn gystadleuol wrth wraidd byd y campau...a'r awydd i ennill yn sbarduno pobl i wella'u sgiliau a datblygu eu doniau.
Mae cadeirydd chwaraeon Cymru Laura MC Allister wedi trafod y pwnc mewn erthygl yn yr Independent wthnos yma. "Pa mor bwysig yw yr elfen gystadleuol ym myd y campau i blant?"
Taro'r Post rhwng 1 a 2 gyda Garry Owen Cysylltwch gyda'r rhaglen ar 03703 500500; tarorpost@bbc.co.uk; testun 67 500 neu trydar #tarorpost
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 25 Ebr 2014 13:00麻豆社 Radio Cymru