16/04/2014 Mentrau Iaith, Llwybrau Cyhoeddus a Lensys cyffwrdd Google
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Garry Owen.
Beth yw dyfodol Menter Cwm Gwendraeth? Fe fydd Bwrdd y Fenter yn cyfarfod heno. Fe fyddan nhw'n trafod y ffordd ymlaen ar 么l i Brif Weithredwr y Fenter a'r Cadeirydd adael eu swyddi. Dyma'r fenter gyntaf yng Nghymru. Mewn datganiad dywed y Fenter eu bod yn ail-strwythuro ar gyfer dyfodol cyffrous yn eu hanes ac yn bwriadu lawnsio sawl ymgyrch i hyrwyddo gwaith y fenter yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Be yw'r ffordd ymlaen i'r Fenter a Mentrau eraill Cymru?
Wedi trafodaeth ar y rhaglen am y ddarpariaeth sydd ar gael i bobl hyn i gadwn ffit a heini? Un o'n gwarndawyr o Frynaman wed cysylltu. Dywed nad yw'n hawdd cerdded rhai o lwybrau cyhoeddus yr ardal. Mae'r llwybrau wedi cau ers i'r diwydiant glo brig ddod i'r ardal. Ydach chi wedi cael problemau tebyg? Ydach chi'n dod ar draws llwybrau sydd wedi eu cau am ba bynnag reswm?
A lensys cyffwrdd Google. Math newydd o lensys yw'r rhai sy'n cynnwys camera ? Ydy en gam rhy bell o ran preifatrwydd? A beth am y posiblrwydd y gall y math yma o gamera cudd rhoi'r gallu rywun ysbio arno chi neu dynnu lluniau anghyfreithlon? Ond ar y llaw arall....mae manteision hefyd...helpu pobl ddall i groesir hewl
Technoleg...bendith neu hunllef?
Taro'r Post rhwng 1 a 2 gyda Garry Owen Cysylltwch gyda'r rhaglen ar 03703 500500; tarorpost@bbc.co.uk; testun 67 500 neu trydar #tarorpost
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Mer 16 Ebr 2014 13:00麻豆社 Radio Cymru