14/04/2014 Gemau'r Gymanwlad, Siop Tresaith a Nigel Evans
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Garry Owen.
100 diwrnod sydd i fynd cyn dechre Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow. Ac mae buddsoddiad o 拢3 miliwn wedi ei roi i hybu'r campau yng Nghymru. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i annog mwy o ferched a merched ifanc i gymryd mewn chwareon a hefyd mwy o bobol ag anableddau a phlant o gymunedau difreintiedig. Pa mor agored i bawb yw chwaraeon yng Nghymru ar hyn o bryd. Efallai eich bod chi yn ymwneud a champ ac yn ei chael hi yn anodd i ddatblygu eich sgiliau,neu eich arbenigedd. Cysylltwch
Mae sylwadau un ymwelydd 芒 Siop Tresaith yn corddir dyfroedd. Doedd o mae'n debyg ddim wedi mynd yno i wrando ar y gweithwyr yn siarad Cymraeg.
Hefyd mae'r Aelod Seneddol Toriaidd Nigel Evans, wedi dweud bod yr un ar ddeg mis diwetha' wedi bod yn uffern. Wythnos ddiwetha' fe gafwyd e'n ddieuog o gyhuddiadau o ymosod rhywiol. Mae'n dweud nawr y dylid ystyried newid y gyfraith a gwneud hi yn anoddach i erlyn achosion sy'n dyddio nol ddegawdau. Ydych chi yn cytuno a fe?
Cysylltwch 芒 Garry 03703500500; tarorpost@bbc.co.uk neu ar y trydar #tarorpost
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 14 Ebr 2014 13:00麻豆社 Radio Cymru