10/04/2014 Gwasanaeth tacsi ysgol, p锚l-droed ieuenctid a diogelwch y we
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Garry Owen.
Ar Taro'r Post heddiw rhwng 1 a 2 gyda Garry Owen fe fyddwn ni'n clywed am siomedigaeth mam o'r gogledd orllewin na chaiff ei mab chwarae p锚l-droed gyda'i ffrindiau yng Nghynghrair Ynys M么n am nad yw'n byw ar yr ynys. Felly, a ddylai plant ond cael chwarae o fewn eu milltir sgwar?
Ar y rhaglen fe fyddwn ni'n clywed beirniadaeth hefyd am Gyngor Conwy am eu bod nhw yn torri gwasanaeth tacsi am ddim sy'n mynd 芒 phlant o Henryd yn Nyffryn Conwy i Ysgol Gymraeg Creuddyn.. Rhieni yn dweud bydd hyn yn peryglu diogelwch plant mor ifanc ag 11 oed....ac maen nhw yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
A pha mor ddiogel yw eich cyfrineiriau? Ydach chi'n eu cofio? Ydach chi'n eu newid yn gyson? Fe allai byg fod wedi amharu arnyn nhw.
Cysylltwch gyda Garry a'r t卯m 03703500500; tarorpost@bbc.co.uk ar y testun 67500 neu #tarorpost ar y Trydar
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediad
- Iau 10 Ebr 2014 13:00麻豆社 Radio Cymru