Episode 7
Geraint Løvgreen holi rhai o gyfansoddwyr caneuon ysgafn Cymraeg am yr hanes y tu ôl i'w caneuon. Informal chats with some of Wales' foremost popular song composers.
Darllediad diwethaf
Julian Lewis Jones a Heledd Cynwal
Er fod y ddau’n byw yng nghyffuniau Llandeilo nawr, bobol ddwad yden nhw. Julian Lewis Jones o Ynys Mon a Heledd o Gaerdydd.<?xml:namespace prefix = o ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />
Ìý
Mae gan y ddau atgofion melys iawn o’u plentyndod a’r bwyd roedden nhw’n ei fwyta ar yr aelwyd.
Ìý
Nid actio oedd swydd gynta Julian a chawn glywed sut aeth o fod yn brentis yn Alwminiwm Mon i gymeryd rhan mewn ffilm fawr Hollywood gyda Clint Eastwood yn cyfarwyddo.
Ìý
Doedd Heledd ddim wedi bwriadu dilyn ei mham i weithio yn y cyfryngau ond sylweddolodd nad oedd hi’n hoffi Mathemateg, na Gwyddoniaeth pan oedd yn yr ysgol.
Ìý
Fel rhieni mae’r ddau yn ymwybodol o fwyta’n iach ac am annog eu plant i wneud hynny.
Ìý
Lleoliad y sgwrs yw Y Polyn, Capel Dewi, Nantgaredig. Tafarn rhyw ddwy filltir o Ardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru. Mae’r dafarn wedi ei nodi yn y Good Food Guide,, y Michelin Pub Guide , llyfryn Alistair Dawday ar dafarndai gorau’r wlad ac mae ganddo seren Egon Ronay.
Ìý
Dewis bwyd Julian yw – cranc QAberdaron, lleden a tharten siocled.
Ìý
Dewis bwyd Heledd yw eog wedi ei fygu, <?xml:namespace prefix = st1 ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:smarttags" />pei cyw iar a chorizo a phwdin bara menyn a hufen ia.
Ìý
Ìý
Riset Y Polyn – Ragu Cig Carw Ìý
- Ragu Cig carw
- 450gm 1cm cig carw wedi ei dorri’n fan
- 2 nionyn gwyn
- 2 foryn
- 1 cennin
- 2 goesyn seleri
- 6 gewin garlleg
- 1 llwy fwrdd o puree tomato
- Chwarter potel o win coch
- 500ml stoc cyw iar
- Olew i ffrio
- Halen a phupur fel bo’r angen.
Ìý
Torri’r moryn yn fan, a’r seleri, y nionyn a’r cennin. Rhoi’r llysiau sy’n weddill mewn prosesydd bwyd a’I falu’n fan.
ÌýCynhesu’r popty i 150 gradd C
ÌýCynhesu olew mewn padell/ casserol a ffrio’r cig carw nes iddo droi’n frown a’i roi i nail ochr. Rhoi’r llysiau wedi eu torri’n fan yn y badell a’u chwysu nes eu body n feddal cyn ychwanegu’r puree tomato. Coginio’r cymysgedd am funud neu ddau. Ychwanegu’r cig carw i’r badell unwaith yn rhagor. Coginio gan droi’r cymysgedd bob hyn a hyn. Ychwanegu’r gwin coch a choginio am 5 munud arall.Cyn gynted ag y bydd y cymysgedd wedi dechre berwi, ei synod oddi ar y tan, rhoi caead ar y badell / llestr a’i roi yn y popty am 4 awr.Edrychwch arno bob hanner awr gan ychwanegu mwy o stoc os bydd mewn peryg o sychu. Coginio hyd nes bydd y cig yn dyner.
ÌýDarllediadau
- Sul 23 Medi 2012 10:02Â鶹Éç Radio Cymru
- Iau 27 Medi 2012 13:15Â鶹Éç Radio Cymru