Main content

Telerau a Hysbysiad Preifatrwydd - Cyfrannu Cit

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y Â鶹Éç wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol chi.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi pan fyddwch chi’n llwytho eich manylion i fyny ar Upload ar y Â鶹Éç. Rhagor o wybodaeth am wybodaeth a phreifatrwydd.

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei chasglu gennych chi?

Eich enw a’ch cyfeiriad e-bost fydd y data personol, yn ogystal ag enw eich sefydliad (efallai y bydd hyn yn amlwg o’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei roi). Defnyddiwch gyfeiriadau e-bost y cwmni/sefydliad os yw ar gael.

Beth fyddwn ni’n ei wneud â’ch gwybodaeth bersonol?

Dim ond at ddibenion cynllun Gwneud Gwahaniaeth - Cyfrannu Cit ar draws radio lleol y Â鶹Éç y bydd y Â鶹Éç yn defnyddio’r data personol y byddwch yn ei lwytho i fyny. Mae’r ymgyrch hon yn chwilio am gitiau chwaraeon mewn cyflwr da, yn ogystal â chwmnïau neu elusennau sy’n fodlon i’w safleoedd gael eu defnyddio ar gyfer casglu citiau ar adegau penodol a/neu sy’n fodlon eu dosbarthu i ysgolion a chlybiau a allai fod eu hangen. Dim ond at ddibenion cysylltu â chi at y dibenion hyn y bydd y data personol rydych chi’n ei lwytho i fyny fan hyn yn cael ei ddefnyddio, os byddwch chi’n dewis cymryd rhan.

Y Â鶹Éç yw ‘rheolydd data’ yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni. Mae hyn yn golygu mai’r Â鶹Éç fydd yn penderfynu ar gyfer beth fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, a sut bydd yn cael ei phrosesu. Mae’r ffordd y mae’r Â鶹Éç yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol wedi’i seilio’n gyfreithiol ar eich caniatâd chi. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â thîm Gwneud Gwahaniaeth y Â鶹Éç drwy anfon e-bost at Gwneudgwahaniaeth@bbc.co.uk.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol?

Bydd eich data personol yn cael ei gadw tra bydd cynllun Gwneud Gwahaniaeth - Cyfrannu Cit yn parhau. Yna bydd yn cael ei ddileu.

Gyda phwy rydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth?

Ni fydd y Â鶹Éç yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd partïon eraill oni bai fod hynny’n ofynnol neu’n cael ei ganiatáu o dan y gyfraith.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

o dan y gyfraith diogelu data. Gallwch ofyn am gopi o’r data mae’r Â鶹Éç yn ei storio amdanoch chi, sy’n cynnwys data eich Cyfrif Â鶹Éç a’r data a ddisgrifir uchod.

Mae gennych i ofyn i ni ddileu’r data rydyn ni’n ei gasglu amdanoch, ond mae eithriadau i’ch hawliau a gallant fod yn gyfyngedig mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft gallwn wrthod eich cais.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y Â鶹Éç yn  /privacy/cy.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r Â鶹Éç wedi delio â’ch gwybodaeth bersonol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Byddwn yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd os bydd newidiadau sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Telerau ac Amodau

Fel partneriaid Gwneud Gwahaniaeth y Â鶹Éç - Cyfrannu Cit, rydyn ni’n gofyn i chi wneud y canlynol:

  • Darparu tystiolaeth o statws elusennol/nid-er-elw i dîm Gwneud Gwahaniaeth y Â鶹Éç, er y gallwn weithio gyda chwmnïau preifat mewn rhai amgylchiadau. (Rhaid i elusennau ddarparu prawf eu bod wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ac nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw ymchwiliadau cyfredol neu arfaethedig).
  • Darparu dolen addas i’ch gwefan a fydd yn cael ei chyhoeddi ar wefan Gwneud Gwahaniaeth y Â鶹Éç.
  • Rhoi cyfarwyddiadau clir ynghylch pryd y byddwch chi (y sefydliad partner) yn gallu derbyn rhoddion.
  • Cyflwyno copi o’ch cytundeb diogelu data i’r Â鶹Éç.
  • Gweithio gyda’n partneriaid cenedlaethol i ddosbarthu cit os oes angen.
  • Gwneud cofnod rhesymol ac adrodd yn ôl i dîm Gwneud Gwahaniaeth y Â鶹Éç ynghylch nifer a math y rhoddion a gafodd eu casglu a’u dosbarthu. Y dull mesur fydd sawl bag bin sydd wedi cael ei lenwi.
  • Addo na fydd unrhyw git a roddir yn cael ei werthu ac nad oes elw i’w wneud fel rhan o’ch partneriaeth.
  • Darparu manylion ffôn ac e-bost i dîm Gwneud Gwahaniaeth y Â鶹Éç er mwyn gallu cysylltu â chi yn ystod oriau swyddfa.
  • Cydnabod mai rôl y Â鶹Éç yn yr ymgyrch hon yw cysylltu cwmnïau ac elusennau â phobl neu sefydliadau a fydd yn defnyddio’r cit ac nad oes gan y Â鶹Éç gysylltiad ag unrhyw un o’r eitemau gaiff eu casglu a/neu eu dosbarthu gan bartneriaid, felly rydych yn cydnabod na all y Â鶹Éç dderbyn unrhyw atebolrwydd sy’n deillio o gasglu a/neu ddosbarthu’r eitemau.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr eitemau a gaiff eu rhoi yn addas i’r diben ac o ansawdd addas cyn eu dosbarthu.
  • Sicrhau bod polisïau yswiriant priodol a digonol ar waith gyda chwmni yswiriant dibynadwy, gan gynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac atebolrwydd cynnyrch a fydd yn ddim llai na dwy filiwn o bunnoedd sterling (£2,000,000) gyda chwmpas y warchodaeth yn briodol i’ch cysylltiad â’r ymgyrch Gwneud Gwahaniaeth - Cyfrannu Cit mewn perthynas ag unrhyw un hawliad neu ddigwyddiad. Byddwch yn cyflwyno tystiolaeth o’r yswiriant gofynnol i’r Â鶹Éç ar ffurf tystysgrif yswiriant neu lythyr gan frocer yn cadarnhau bod y polisïau’n gwbl weithredol ac mewn grym.

Sylwch, wrth gyfrannu at ymgyrch Gwneud Gwahaniaeth y Â鶹Éç, rydych yn cytuno i roi trwydded anghyfyngedig heb freindal i ni i gyhoeddi a defnyddio’r deunydd mewn unrhyw ffordd.