Ryseitiau Ar Bl芒t
Tatws Pob Wedi'u Llwytho
Cynhwysion:
2 tatws mawr
1 llwy fwrdd o olew
Llenwad:
50ml llaeth
30g menyn, wedi’i toddi
60g caws
4 shibwns neu 1 winwnsin bach wedi’i torri’n mân
Halen a phupur
Dull
Cynheswch y ffwrn i 200 gradd selsiws ffan.
Priciwch y tatws gyda fforc, yna arllwyswch yr olew drosodd a rhwbiwch i orchuddio. Pobwch yn y ffwrn am 1 awr.
Yn y 10 munud olaf o’r tatws yn pobi, paratowch y llenwad. Toddwch y menyn, gratiwch y caws a sleiwsiwch y shibwns neu winwnsin.
Unwaith ma’r tatws wedi’u pobi, tynnwch allan o’r ffwrn yn ofalus a rhowch ar fwrdd torri. Torrwch y tatws yn eu hanner, defnyddiwch llwy i dynnu’r canol allan a rhowch mewn i fowlen. Rhowch y croen ar hambwrdd pobi wedi’i leinio â ffoil yn barod ar gyfer y llenwad.
Stwnshiwch y tatws yn y bowlen gyda fforc cyn ychwanegu’r llaeth, menyn, hanner y caws, eich dewis chi o winswns, cymysgwch yn dda. Ychwanegwch digon o bupur du ac ychydig o halen. Gwahanwch y llenwad cawslyd, blasus nôl mewn i’w siacedu a rhowch nôl mewn i’r ffwrn am rhyw 8-10 munud.
Ar ôl yr amser yma – tynnwch y tatws allan o’r ffwrn, gwasgarwch gweddill y caws drosodd ac yna nôl i’r ffwrn am rhyw 4-5 munud arall, neu tan bod y caws wedi toddi.
Gweinwch y tatws yn syml gyda salad ffresh, cig oer, betys wedi’u piclo a thoc o fara menyn.
Ramen llysieuol
Cynhwysion
2 ewin garlleg
1 modfedd sinsir ffresh
1 llwy fwrdd o olew sesame
1 llwy fwrdd o olew rapeseed
500ml stoc llysiau
1 ½ llwy fwrdd o saws soy
¾ llwy fwrdd o mirin
100g madarch
150g llysiau gwrdd Asiaidd
¼ yr un pupur melyn a coch
2 shibwns
150g nwdls ramen
I addurno:
2 wy
2 rhuddygl (radish) wedi’i sleisio
1 tsili ffresh
1 llwy de yr un o hadau sesame du a gwyn
Dull:
Mewn sosban canolig, berwch dwr ac yna ychwanegwch yr wyau. Trowch y gwres lawr a choginiwch yr wyau am 7 munud. Ar ôl yr amser yma, tynnwch yr wyau allan a rhowch yn syth mewn i ddwr oer gyda iâ.
Tra ma’r wyau yn coginio, sleisiwch y garlleg, gratiwch y sinisr a rhowch mewn i sosban canolig gyda’r olew rapeseed a sesame. Coginiwch dros gwres canolig-uchel am funud, cyn ychwanegu’r stoc, saws soy a’r mirin.
Paratowch y madarch trwy tynnu’r coesau a sychu’n lan gyda darn o bapur cegin. Torrwch y madarch mewn i sleisys ac yn rhowch nhw mewn i’r stoc i goginio am 5 munud.
Golchwch y llysiau gwyrdd a sleisiwch y ddau pupur. Torrwch y shibwns ar ongl. Unwaith ma’r madarch wedi coginio am 5 munud, ychwanegwch gweddilll y llysiau i goginio am 1 munud.
Tra ma’r llysiau’n coginio, cynheswch dwr i bwynt berwi a coginiwch y nwdls am 2-3 munud.
I weini, gwahanwch y nwdls rhwng dau bowlen ac yna rhowch y llysiau ac y cawl dros y nwdls i edrych yn daclus. Torrwch yr wyau yn ofalus mewn hanner a rhowch ar ben y llysiau gyda’r rhuddygl a tsili wedi torri. I orffen gwasgarwch yr hadau sesame du a gwyn.
Rys谩it Pavlova Ffrwythau
Cynhwysion
Ar gyfer y meringue:
4 gwyn wy mawr
225g siwgr man
1 llwy fwrdd o flawd corn (‘cornflour’)
Ar gyfer y llenwad:
200ml Hufen dwbwl
200ml Iogwrt Groegaidd
600g Ffrwythau ffres/wedi rhewi/mewn tun
Dull
Cynheswch y ffwrn i 130 gradd selsiws ffan, a leiniwch hambwrdd pobi gyda Hpapur gwrthsaim gwnewch amlunelliad cylch yn mesur tua 25cm mewn maint.
Mewn bowlen mawr, curwch y 4 gwyn wy gyda chwisg nes bod yn stiff ond ddim yn ‘sych’. Ychwanegwch y siwgr mewn yn raddol, un llwy ar y tro tan bod y meringue yn sgleinio. I orffen cymysgwch y blawd corn mewn i’r cymysgedd.
Defnyddiwch smotyn bach o’r meringue i sticio’r papur gwrth saim lawr ar yr hambwrdd. Crafwch y meringue ar y papur gwrthsaim, gan neud yn siwr eich bod chi’n aros tu fewn i’r amlinell cylch. Yn defnyddio llwy, siapiwch y meringue mewn i’r cylch – fe allwch creu spikes neu siwrls gyda’r llwy os hoffech chi ar ymylon y cylch, ac yna gwnewch pant bach yn y canol – lle perffaith i lenwi gyda’r llenwad wedyn.
Pobwch yn y ffwrn am 1 awr. Ar ôl yr amser yma, trowch y ffwrn i ffwrdd, a gadewch y meringue i oeri yn y ffwrn, gyda’r drws ar agor ychydig bach. Yna tynnwch y meringue allan o’r ffwrn a gadewch i oeri’n gyfan gwbwl.
Ar gyfer y llenwad, fe allwch chi ddefnyddio unrhyw ffrwyth chi moyn, beth bynnag sydd mewn tymor, ffrwythau tun mewn sudd naturiol, ffrwythau o’r rhewgell wedi dadleth – neu cymysgedd! Ychwanegwch ychydig o siwgr os ma’r ffrwythau bach yn sur.
Curwch yr hufen a’r iogwrt gyda’i gilydd nes bod y gymysgedd yn dal ei siap. Paratowch y ffrwythau trwy olchi (os yn ffresh) a thorri mewn i darnau tua 2cm mewn maint.
I weini, rhowch y meringue yn ofalus ar blât, yna ychwanegwch y gymysgedd hufen a iogwrt, a’i wasgaru ar ben y meringue. I orffen, rhowch y ffrwythau ffresh ar y top. Bwytewch a mwynhewch – am flas o’r haf!
Dahl Cysurus
Cynhwysion
300g lentils melyn
1 llwy de tsili sych
1 llwy de turmeric
1 llwy de halen
3 dail bay
2 tomato, wedi torri
Llond llaw coriander ffresh, wedi’i dorri
I orffen
80g menyn (heb halen)
8 ewin garlleg, wedi’i sleisio
Dull
Golchwch y lentils cyn rhoi nhw mewn i sosban mawr gyda 1.5litr o ddwr oer. Rhowch y sosban ar gwres canolig ac ychwanegwch y tsili sych, turmeric, halen, dail bay a tomatos, a dewch a’r holl beth i ferw cyn lleihau y gwres. Coginiwch y lentils dros gwres isel, gan troi yn aml am ryw hanner awr i 40 munud, neu tan bod y lentils wedi torri lawr a bod yr holl beth wedi tewhau. Ychwanegwch mwy o ddwr os hoffech chi iddo bod yn fwy llac.
Unwaith ma’r lentils wedi’i coginio, toddwch y menyn dros gwres canolig ac ychwanegwch y garlleg sydd wedi’i sleisio, coginiwch tan bod y garlleg yn dechrau troi yn euraidd. Arllwyswch y garlleg a’r menyn mewn i’r lentils, cymysgwch yn dda. Yn olaf, cymysgwch trwyddo ¾ o’r coriander ffresh. Gweinwch y dahl gydag ychydig o goriander ffresh wedi’i gwasagru drosodd.
Cwcis Siocled
Cynhwysion
170g blawd plain
½ tsp soda pobi
½ tsp halen
115g menyn, meddal
85g siwgr gwyn ‘granulated’
65g siwgr brown golau
½ tsp blas fanila
1 wy
170g naddion siocled
Dull
Cynheswch y ffwrn i 180C ffan ac leiniwch 2 hambwrdd pobi gyda papur gwrthsaim.
Mewn powlen bach, cymysgwch y blawd, soda pobi ac yr halen.
Mewn powlen canolig, cyfunwch y menyn, siwgr gwyn, siwgr brown ac y blas vanilla tan eu bod yn hufenog. Ychwanegwch yr wy a curwch i gyfuno.
Yn rhaddol, ychwanegwch y blawd i’r gymysgedd i ffurfio toes. Yn olaf ychwanegwch y siocled a cymysgwch.
Rhowch pentwr o’r toes, maint llwy pwdin ar yr hambwrdd – peidiwch rhoi y peli toes yn rhy agos at eu gilydd – tua 6-8 ar bob hambwrdd.
Pobwch yn y ffwrn am 8-9 munud. Mwynhech yn syth o’r ffwrn gyda gwydr o laeth
Caws Blodfresychen - digon i 4-6 fel pryd ochr
Cynhwysion
Blodfresych cyfan
500ml Llaeth
50g Menyn
50g Blawd plaen
1 Llwy dê mawr o fwstard Dijon
60g Caws Parmesan
60g Caws Gruyere
60g Caws Cheddar
Halen a phupur
Dull
Cynheswch y ffwrn i 180C ffan.
Torrwch y blodfresych mewn i ddarnau a berwi mewn digon o ddwr gyda phinsh da o halen am tua 4 munud, digon o amser i’r blodfresych coginio heb fynd yn rhy meddal. Arllwyswch y dwr i ffwrdd a cadwch y blodfresych yn y sosban tra bod chi’n paratoi y saws.
Mewn sosban arall, cynheswch y menyn, blawd a llaeth dros dymheredd canolig. Yn rhaddol mi fydd y menyn yn toddi ac mi wneiff y blawd cymysgu mewn i’r llaeth, gwnewch yn siwr eich bod chi’n troi yn aml. Unwaith mae’r saws yn tewhau, ychwanegwch y mwstard a 50g o gaws parmesan, 50g o gaws Gruyere a 50g o gaws Cheddar mewn i’r saws, cymysgwch i doddi’r caws i mewn i’r saws. Ychwanegwch halen os oes angen, a digon o bupur du.
Unwaith ma’r saws yn barod, rhowch y blodfresych mewn i ddisgl sy’n addas i’r ffwrn ac arllwyswch y saws caws drosdodd. Gwasgarwch gweddill y caws dros bopeth cyn pobi yn y ffwrn am 20-30 munud, neu tan bod yr arwyneb yn euraidd. Mwynhewch!
Rhiwbob a Chacen
Cynhwysion
Rhiwbob
400g Rhiwbob pinc
200g Siwgr caster
2 Deilen bay
1 Seren anise
1 Ffon sinamon
Cacen
165g Menyn meddal
165g Siwgr caster
3 Wy
165g Blawd codi
25g Almwnd mân
I'w gweini
Crème fraiche neu hufen dwbl wedi’i chwipio
Cnau almwnd wedi’i torri a tostio
Dull
Cynheswch y ffwrn i 160C ffan, a leiniwch tun 8 modfedd gyda menyn a phapur gwrthsaim.
Cymysgwch y menyn a siwgr caster mewn bowlen canolig nes iddo edrych yn olau ac ysgafn. Ychwanegwch yr wyau un ar y tro, gan gymysgu ar ôl pob un. Ychwanegwch y cnau almwnd mân a’r blawd, cymysgwch nes bod popeth wedi’i cymysgu’n dda. Arllwyswch y gymysgedd mewn i’r tun, pobwch yng nghanol y ffwrn am 30-35 munud, neu tan bod sgiwer yn dod mas yn lan o’r canol. Gadewch y gacen i oeri am ychydig, tra eich bod chi’n paratoi y rhiwbob.
Mewn sosban canolig, ychwanegwch y siwgr, 250ml o ddwr ac y sbeisys a dewch a’r holl beth i ferw. Torrwch y rhiwbob mewn i ffyn yn mesur tua 5cm mewn hyd ac ychwanegwch at y sosban, coginiwch am funud cyn rhoi clawr ymlaen a troi y gwres bant. Mi fydd digon o wres yn y sosban i gario mlaen i gogino’r rhiwbob.
I’w gweini, torrwch sleisen dda o’r gacen, ychwanegwch llwyed o’r crème fraiche neu hufen wedi’i chwipio. Rhowch peth rhiwbob a surop dros y gacen a gorffenwch gyda pheth cnau almwnd wedi tostio.