Geiriau caneuon - cyfres 1
Dyma lle gallwch chi ddod o hyd i eiriau'r holl ganeuon sydd wedi ymddangos ar raglenni Enwog o Fri, Ardal Ni!
Rhaglen 1: Guto Nyth Bran
Ìý
Guto, Guto, Guto Nyth Bran
Cyflym dy draed, a’th goesau ar dân
Guto, Guto, Guto Nyth Bran
Ni welwyd dy debyg erioed o’r blaen,
Guto, Guto, Guto Nyth Bran
Cyflym ei draed, a’th goesau ar dân
Guto, Guto, Guto Nyth Bran
Ni welwyd dy debyg erioed o’r blaen,
Rhed, rhed, rhed, rhed, rhed fel y gwynt
Rhed, rhed, rhed, rhed yn gynt ac yn gynt
Yn gynt na phob sgwarnog, ceffyl a dyn
Gan ennill pob ras a churo pob un
Arwr o Gymru, yn enwog o fri
Ac ry’n ni mor browd, rwyt o’n hardal ni - Llwyncelyn
Gwibio fan yma a gwibio fan draw
Rasio’r cymylau yn y ddrycin a’r glaw
Rhedeg a rhedeg, o ie, nerth ei draed
Ymlaen ac ymlaen a hynny’n ddi-baid
Ni redodd neb yn gynt o’r blaen
Na Guto, Guto, Guto Nyth Bran.
Ni redodd neb yn gynt o’r blaen
Na Guto, Guto, Guto Nyth Bran.
Guto Nyth Bran
Rhaglen 2: Dewi Sant
Ìý
Dyn caredig oedd Dewi
Bywyd syml oedd e’n byw
Crwydro Cymru yn pregethu
Am Iesu ac am Dduw
Ei fwyd oedd bara a pherlysiau
Ni yfai ddim ond dŵr
Ond Sant o ddyn oedd Dewi
Nawdd Sant Cymru, ie siŵr!
‘Gwnewch y pethau bychain
A welsoch ac a glywsoch gennyf i’
Oedd, neges Dewi, Dewi Sant
Dyn caredig oedd Dewi
A dyn clyfar iawn
Fe ddaeth i Landdewi Brefi
I bregethu un prynhawn
Tyrfa ddaeth i wrando
Roedd hi’n anodd ei weld yn glir
Felly rhoddodd hances ar y llawr
Ac fe gododd ef y tir
‘Gwnewch y pethau bychain
A welsoch ac a glywsoch gennyf i’
Oedd neges Dewi, Dewi Sant
Gwnewch y pethau bychain
A welsoch ac a glywsoch gennyf i
Oedd neges Dewi, Dewi Sant
Rhaglen 3: Evan James a James James

Diolch wnawn i Evan James a James
Tad a mab o Bontypridd
Am greu cân sy’n codi balchder
Dyma’r anthem orau sydd
Mae mor bwysig ac annwyl i mi
Ar gae rygbi, yr ysgol, ym mhobman
Anthem Cymru ydyw hi.
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Tros ryddid gollasant eu gwaed.
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau
Rhaglen 4: Mari Jones

Ar lethrau Cadair Idris,
Flynyddoedd maith yn ôl
Roedd Mari Jones yn byw mewn tlodi
Ym Mwthyn Ty’n y Ddol
Roedd bywyd yno’n anodd
A phres o hyd yn brin
A Mari fach yn gweithio
Drwy’r dydd heb gwyno dim.
‘Fe hoffwn i gael Beibl'
Medd Mari fach un dydd
‘Ie, ‘Beibl Gymraeg i mi fy hun
Storis da yn y Beibl sydd’
A dyma hi’n cynilo
A gweithio oriau maith
Ac yna ‘rôl chwe blynedd
Cychwynnodd ar ei thaith
Mor bell oedd ei thaith i’r Bala
Heb ‘sgidiau am ei thraed
Ond cerdded i gael Beibl
Gan Tomos Charles oedd rhaid
Cerdded bob cam i’r Bala
Roedd hi wedi blino’n lân
Ei thraed a’i chorff yn brifo
Ond ei hysbryd oedd ar dân
Fe gafodd hi ei Beibl
Flynyddoedd maith yn ôl
A chofio wnawn am Mari
O fwthyn Ty’n y Ddol
Y ferch fach benderfynol
A aeth ar siwrne faith
Yr holl ffordd draw i’r Bala
I gael Beibl yn ei hiaith
Rhaglen 5: Y Ferch o Gefn Ydfa
Ìý
Stori serch sydd yma
Am y Ferch o Gefn Ydfa
Wil Hopkin ac AnnThomas
Oedd mewn cariad, ond ‘peth trista
Oedd na chai’r ddau briodi
Eu clonau oedd ar dorri
Ond mae fflam eu cariad yn llosgi o hyd
Yn y gân hon sgwennodd Wil amdani…
Mi sydd fachgen ieuanc ffôl.
Yn byw yn ôl fy ffansi
Myfi'n bugeilio’r gwenith gwyn,
Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddoi di ar fy ôl,
Ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
‘Gwaeth 'rwy’n dy weld, y feinir fach,
Yn lanach, lanach beunydd!
Tra fo dwr y môr yn hallt,
A thra fo 'ngwallt yn tyfu
A thra fo calon yn fy mron
Mi fydda i'n ffyddlon iti:
Dywed imi'r gwir dan gel
A rho dan sêl d'atebion,
P'un ai myfi neu arall, Ann
Sydd orau gan dy galon.
Rhaglen 6: Santes Dwynwen (3 cân)

CAN 1: DEUAWD MAELON A DWYNWEN
DWYNWEN: Maelon Dafodrill, fy nghariad i
Beth o beth o beth a wnaf fi?
Wn i ddim os caf i dy weld di rôl hyn
Dw i’n teimlo mor drist, dalia fi’n dynn
MAELON: Dwynwen o Dwynwen, fy nghariad i
Beth o beth o beth yn wir sy’?
Pam o pam na chaf i dy weld di rôl hyn?
Paid teimlo mor drist, daliaf di’n dynn.
M & D: Pam na chawn ni fod ‘fo’n gilydd
Ti a fi yn hapus a dedwydd
Ond cofia hyn, ti yw’r un i mi
Maelon a Dwynwen - ‘mond ti a fi
Maelon a Dwynwen - ‘mond ti a fi.
Maelon a Dwynwen - ‘mond ti a fi.
CAN 2: UNAWD DWYNWEN
Mor unig wyf , ac mor ddigalon
Beth wnaf i hebot ti, o Maelon
Gweddïo wnaf , nos a dydd
Fy nghalon fach ar dorri sydd x 2
CAN 3: DIWEDDGLO – FAINT FYNNIR
Dwynwen, Dwynwen – ti yw Santes cyfeillion
Dwynwen, Dwynwen – ti yw Santes Cariadon
Brychan Brycheiniog oedd enw dy dad
Brenin mawr pwysig , rheolwr y wad
Maelon Dafodrill, dy gariad a’th fyd
Ond torriast dy galon yn lan – a’th obaith i gyd
Dwynwen, Dwynwen – ti yw Santes cyfeillion
Dwynwen, Dwynwen – ti yw Santes Cariadon
I Landdwyn yr est ti, lle tawel i fyw
A chodaist di eglwys i ddiolch i Dduw
A heddiw yn Llanddwyn fe deimlir o hyd
Dy swyn yn awel y mor ... a chariad i gyd
Dwynwen, Dwynwen – ti yw Santes cyfeillion
Dwynwen, Dwynwen – ti yw Santes Cariadon
Rhaglen 7: Macsen Wledig ac Elen

Ie, Macsen Wledig yw d’enw di
Ymerawdwr Rhufain yn wir wyt ti
'Rôl hela, un dydd, un p'nawn
Ti gefaist freuddwyd, un rhyfedd iawn.
Mi welaist fynydd, est dros y don
Mi welaist Elen yn y freuddwyd hon
Mor brydferth, mor hardd, oedd hi
Ie hon oedd merch, dy freuddwydion di.
Fe ddest i Gymru, ti welodd hi
Ie hon oedd merch dy freuddwyd di
(Macsen) ‘Beth hoffet, O Elen, gei di’
(Elen) ‘Mi hoffwn gaer, nid un ond tri’
Ie stori hen iawn yn wir yw hon
Pan deithiodd Macsen draw dros y don
A chofio, yn wir wnawn ni
Am Elen a Macsen, enwog o fri