Main content

Rheolau'r Gystadlaeuaeth - Gwed y Gair

Hysbysiad Preifatrwydd

(Diweddariad i’r Hysbysiad Preifatrwydd 05/04/24)

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y 麻豆社 wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio data personol o’r fath. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae cynulleidfaoedd yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud yn y 麻豆社. Rydyn ni’n ymgysylltu’n rheolaidd ac yn gofyn i’n cynulleidfa gymryd rhan a chyfrannu mewn ffyrdd amrywiol, gan gynnwys drwy gystadlaethau ffôn.

Caiff gwybodaeth yngl欧n â sut i gymryd rhan ei hegluro ar yr awyr neu ar-lein, gan gynnwys y rheolau penodol sy’n berthnasol i’r gystadleuaeth.

Os byddwch chi’n ymddangos ar yr awyr, gallai hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio eich cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.

Efallai y byddwn yn defnyddio eich ymddangosiad ar yr awyr (os yw’n berthnasol) at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y 麻豆社.

Pa ddata personol fydd y 麻豆社 yn eu casglu a sut y byddwn yn eu defnyddio?
Bydd y 麻豆社 yn casglu ac yn prosesu eich data personol at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth ffôn; i gadw cofnod o enillwyr at ddibenion cydymffurfio ac archwilio; i greu cynnwys darlledu; ac er mwyn rhoi’r wobr i’r enillydd.

Data personol
Gan ddibynnu ar natur y gystadleuaeth, gall y 麻豆社 gasglu a phrosesu’r data personol a ganlyn amdanoch:

  • Enw llawn
  • Rhif ffôn
  • Eich oed, neu gadarnhad eich bod yn ddigon hen i gymryd rhan
  • Recordiad wedi’i ddarlledu o’ch llais
  • Eich barn, atebion i’n cwestiynau a gwybodaeth fywgraffyddol y byddech yn hoffi ei rhannu

Gallwn hefyd gasglu eich cyfeiriad ebost neu gyfeiriad post os ydych yn enillydd er mwyn i ni allu anfon eich gwobr atoch.

Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y 麻豆社 yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r 麻豆社 fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael eu defnyddio, a sut y byddant yn cael eu prosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael eu casglu a’u prosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y 麻豆社 gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Mae’r ffordd y mae’r 麻豆社 yn prosesu’r data personol wedi’i seilio’n gyfreithlon ar gyflawni ei dasg gyhoeddus. Rôl y 麻豆社 yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa â chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae gennym hefyd ddyletswydd gyfreithiol i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadleuaeth perthnasol.

Rhannu eich data personol
Mae’r 麻豆社 yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Mae’r partneriaid hyn yn defnyddio’ch data personol ar ran y 麻豆社 yn unig, ac nid yn annibynnol ar y 麻豆社. Ar gyfer cystadlaethau ffôn rydym yn defnyddio platfform teleffoni trydydd parti.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol
Caiff data personol sy’n cael eu storio ar y platfform teleffoni, fel eich rhif ffôn ac unrhyw recordiadau o alwadau, eu cadw am 6 mis ac yna’u dileu.

Caiff data personol eraill gan ymgeiswyr aflwyddiannus eu cadw tan ddiwedd cystadleuaeth yr wythnos honno.

Rydym yn cadw cofnod o enillwyr ac ymgeiswyr sydd wedi dod yn agos at ennill am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.

Os byddwch yn ymddangos ar ddarllediad, caiff y rhaglen ei chadw a’i harchifo gan y 麻豆社 am byth.

Caiff eich data personol eu storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych hawliau dan y gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o’r data personol y mae’r 麻豆社 yn eu storio amdanoch chi.
  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch.
  • Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu’r data personol rydym yn eu casglu amdanoch, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r 麻豆社 wrthod eich cais.
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol, neu i wrthwynebu prosesu eich data personol.
  • Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych am gael gwybod mwy am eich hawliau edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y 麻豆社 yn /usingthebbc/privacy/cy/.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd y mae’r 麻豆社 wedi ymdrin â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .

Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio eich data personol yn newid yn sylweddol.

Telerau ac Amodau

Cystadleuaeth Ffôn Gwed y Gair 麻豆社 Radio Cymru 2024

Am y gystadleuaeth

1. Mae’r gystadleuaeth ar agor i holl breswylwyr y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, heblaw am weithwyr Gr诺p y 麻豆社, eu perthnasau agos ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.

2. Mae modd rhoi cynnig ar y gystadleuaeth drwy ffonio 03703 500 500. Ffonio yw’r unig ffordd o gystadlu. Codir prisiau daearyddol safonol am alwadau o ffonau llinell dir a ffonau symudol. Rhaid bod yn 16 oed neu h欧n i gystadlu.

3. Cynhelir y gystadleuaeth fel arfer ar raglen Ifan Evans ar 麻豆社 Radio Cymru yn ystod yr wythnos (o ddydd Llun i ddydd Iau) rhwng 1400 a 1700 fel yr hysbysir ar yr awyr, (ac eithrio lle bo gofynion golygyddol yn arwain at newid i’r amserlen neu newid i gynnwys y rhaglen). Er mwyn cofrestru bydd y gwrandawyr yn ateb cwestiwn gwybodaeth gyffredinol yn seiliedig ar newyddion y diwrnod. Bydd y llinellau ar agor rhwng tua 15:45 a 16:15. Dewisir enwau’r cystadleuwyr ar hap gan feddalwedd briodol sy’n cynhyrchu rhif ar hap. Yna byddwn yn cysylltu â’r cystadleuydd sy’n cael ei ddewis a bydd yn sgwrsio â’r cyflwynydd yn fyw ar yr awyr (os na fydd y 麻豆社 yn gallu cysylltu â chystadleuydd, bydd y 麻豆社 yn cysylltu â’r cystadleuydd cymwys nesaf a ddewisir ar hap). Bydd yn rhaid i’r cyflwynydd ddisgrifio nifer o eiriau, heb ddweud y gair ei hun, a bydd yn rhaid i’r cystadleuydd ddyfalu cynifer â phosibl o eiriau’n gywir o fewn 60 eiliad. Y mwyaf o eiriau y bydd y cystadleuydd yn eu dyfalu’n gywir, y mwyaf o wobrau y bydd yn eu hennill.

4. Bydd 4 cystadleuydd dros 4 diwrnod o ddydd Llun i ddydd Iau, ac ar y pedwerydd diwrnod bydd pa bynnag gystadleuydd sydd wedi dyfalu’r nifer mwyaf o eiriau yn gywir dros y pedwar diwrnod yn ennill y wobr arbennig. Os bydd tri neu bedwar cystadleuydd yn gyfartal ar ddiwedd yr wythnos, byddwn yn rhoi rhif i bob diwrnod, h.y. dydd Llun = 1, dydd Mawrth = 2, dydd Mercher = 3, dydd Iau = 4, yna’n defnyddio’r cynhyrchydd rhif ar hap i ddewis yr enillydd.

5. Caiff y gystadleuaeth ei hennill ar ddiwedd yr wythnos ar ôl i’r pedwar cystadleuydd geisio cael cynifer o eiriau’n gywir ag y gallant. Bydd y staff cynhyrchu yn rhoi gwybod i’r cyflwynydd fod y llinellau ffôn wedi cau, a bydd y cyflwynydd yn rhoi gwybod i’r gwrandawyr. Efallai y bydd yr enillydd ar ddiwedd yr wythnos yn siarad ag Ifan ar yr awyr.

6. Dim ond unwaith y diwrnod y gallwch gofrestru, ac ni fydd unrhyw gynigion ychwanegol yn cael eu cyfrif. Bydd yn rhaid i enillwyr aros am fis cyn cystadlu eto.

7. Rhaid i’r rhif ffôn a ddefnyddir i gymryd rhan yn ystod y broses gofrestru fod yn eiddo i’r ymgeisydd ei hun. Rhaid i’r ymgeisydd fod yn ymgeisio ar ei ran ef neu hi ei hun. Mae’r 麻豆社 yn cadw’r hawl i anghymhwyso unrhyw ymgeisydd nad yw wedi cofrestru gan ddefnyddio ei ffôn ei hun neu nad yw wedi cofrestru ar ei ran ef neu hi ei hun. Gallai hyn olygu y dewisir ymgeisydd arall o blith yr holl ymgeiswyr.

Manylion y wobr

8. Bydd y gwobrau’n amrywio o CDs/DVDs, neu eitemau cartref eraill, i becyn o ddeunydd hyrwyddo’r rhaglen. Bydd y wobr arbennig yn amrywio o dalebau rhodd gwerth swm penodol i docyn chwaraeon/pecyn penwythnos mewn gwesty. Caiff y wobr ei danfon i’r enillydd drwy’r post.

9. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd gan wobr ofyniad o ran oedran. Pan gynigir gwobr o’r fath, nodir hyn yn glir ar yr awyr. Ni fydd unrhyw wrandäwr nad yw’n bodloni’r gofyniad hwn yn gallu cystadlu yn yr achos hwnnw o’r gystadleuaeth. Os yw’r wobr yn cynnwys mynediad i ddigwyddiad, rhaid i’r enillydd gydymffurfio â chyfyngiadau oedran y digwyddiad, er enghraifft bod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu h欧n os oes angen.

10. Os tocyn i ddigwyddiad neu becyn gwesty yw’r wobr arbennig, ni fydd y 麻豆社 yn darparu cludiant nac yn talu costau teithio. Os oes gan yr enillydd/enillwyr a/neu eu gwestai (os yw’n berthnasol) unrhyw ofynion o ran iechyd neu hygyrchedd, mae angen datgelu’r rhain i’r 麻豆社 cyn cael y wobr. Er mwyn cael profiad llawn o’r wobr sy’n cynnwys profiadau neu ddigwyddiadau â thocynnau, efallai y bydd y 麻豆社, yr hyrwyddwr neu’r lleoliad yn gosod rhywfaint o ofynion o ran diogelwch a/neu iechyd a diogelwch. Bydd angen dilyn y rhain cyn profi’r elfennau hynny. Rhaid i’r enillydd a’i westai (os yw’n berthnasol) gydymffurfio hefyd â’r telerau ac amodau a’r polisïau iechyd a diogelwch mewn unrhyw leoliad sy’n gysylltiedig â’r wobr. Rhaid i’r enillydd/enillwyr gadw at gyfyngiadau oedran penodol cyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

11. Mae’r enillydd/enillwyr yn cytuno i gael eu rhwymo gan delerau trydydd parti sy’n ymwneud â’r digwyddiadau neu’r profiadau perthnasol, ac mae’r ymgeiswyr yn cytuno nad yw’r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys y telerau ac amodau neu’r gwefannau trydydd parti hynny. Ni fydd y 麻豆社 yn gyfrifol am unrhyw fethiant gan yr enillwyr a/neu westeion (os yw’n berthnasol) i gael mynediad neu ailfynediad i’r digwyddiad oherwydd eu hymddygiad neu eu methiant i fodloni’r gofynion mynediad. Ni fydd y 麻豆社 yn gyfrifol am atal neu ganslo digwyddiadau a allai fod yn rhan o’r gwobrau, gan gynnwys drwy gyfyngiadau llywodraethol.

12. Mae penderfyniad y 麻豆社 o ran yr enillydd yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.

13. Os nad oes modd i’r 麻豆社 gysylltu â’r enillydd, mae’n cadw’r hawl i beidio â dyfarnu’r wobr.

14. Mae’r gwobrau fel y nodir ar yr awyr. Nid oes unrhyw opsiwn ariannol yn lle’r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Mae’r 麻豆社 yn cadw’r hawl i gyfnewid neu ategu at unrhyw elfen o’r wobr. Nid yw’r 麻豆社 yn gyfrifol am unrhyw elfen neu newid i’r wobr sydd y tu hwnt i’w reolaeth. Ni all y 麻豆社 dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ansawdd y wobr, nam ar y wobr, na phroblemau danfon.

Cyffredinol

15. Rhaid i bob ymgeisydd gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd rhesymol i’r gystadleuaeth.

16. Mae’r 麻豆社 yn cadw’r hawl (os yw’n credu bod angen) i ganslo, newid neu ddiwygio’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, neu os bydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y 麻豆社 yn codi.

17. Ystyrir bod ymgeiswyr wedi derbyn y rheolau ac yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth hon.

18. Mae’r 麻豆社 yn cadw’r hawl i anghymhwyso unrhyw gystadleuydd y mae’n amau ei fod wedi twyllo.

19. Mae’r 麻豆社 yn cadw’r hawl i atal cystadleuydd rhag mynd ar yr awyr neu i dynnu cystadleuydd oddi ar yr awyr a’i ddiarddel o’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg os yw’n arddangos ymddygiad sarhaus, difrïol neu unrhyw fath arall o ymddygiad sy’n anaddas i’w ddarlledu.

20. Ni all y 麻豆社 dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ansawdd y wobr, nam ar y wobr, na phroblemau yn ymwneud â danfon.

21. Mae’r 麻豆社 yn cadw’r hawl i wneud y canlynol:
(i) diwygio’r telerau ac amodau hyn;
(ii) anghymhwyso unrhyw ymgeisydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sy’n dwyn anfri ar y 麻豆社;
(iii) anghymhwyso ymgeisydd neu enillydd, tynnu’n ôl neu gyfnewid unrhyw wobr, os bydd unrhyw ymgeisydd neu enillydd ar unrhyw adeg yn ymddwyn yn amhriodol neu’n beryglus (gan gynnwys bod o dan ddylanwad alcohol neu sylweddau cemegol, neu achosi niwsans, ond heb fod gyfyngedig i’r rhain;
(iv) gosod gofynion mynediad ychwanegol, cyfyngiadau neu reolau ychwanegol pe bai’r wobr benodol a gynigir yn gofyn am hynny (gan gynnwys oedran ychwanegol neu ofynion mynediad eraill i ddigwyddiad, neu fynnu bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol os yw gwestai’r enillydd dan 18 oed am ran neu’r cyfan o’r wobr, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain); a
(v) canslo neu amrywio’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os bydd ar unrhyw adeg yn credu bod angen gwneud hynny, neu os bydd amgylchiadau’n codi sydd y tu hwnt i’w reolaeth.

22. Ni all y 麻豆社, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall a allai olygu nad yw enwebiad yn cael ei gofrestru’n briodol.

23. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y 麻豆社 yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled neu siom ariannol neu golli enw da.

24. Mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd â Chod Ymddygiad y 麻豆社 ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio, sydd i’w weld yn

25. Y 麻豆社 sy’n rhedeg y gystadleuaeth hon. Y gyfraith berthnasol yw Cyfraith Cymru a Lloegr.