麻豆社

Dileu fideo Plant Mewn Angen o'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaethau Southport

Axel Muganwa RudakubanaFfynhonnell y llun, Helen Tipper
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymddangosodd Axel Muganwa Rudakubana o flaen Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r 麻豆社 wedi tynnu fideo Plant Mewn Angen oddi ar eu gwefannau, wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod yn cynnwys y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaethau Southport.

Cafodd y fideo ei ffilmio yn 2018 ac mae'n cynnwys lluniau o Axel Rudakubana, sy'n hanu o Gaerdydd, pan oedd yn 11 oed.

Mae Axel Rudakubana wedi ei gyhuddo o lofruddio tair o ferched yn ystod dosbarth dawns.

Mae'n ymddangos ei fod wedi cael rhan yn y fideo drwy asiantaeth blant.

Mae llefarydd ar ran Plant Mewn Angen wedi cadarnhau bod y fideo wedi cael eu dynnu oddi ar bob gwasanaeth er mwyn dangos parch i'r rhai fu farw, gan ychwanegu eu bod "yn cydymdeimlo'n ddwys gyda phawb oedd yn rhan o'r digwyddiad brawychus yma".

Mae'r fideo yn dangos y bachgen wedi ei wisgo fel Doctor Who ac yn cael ei weld yn dod allan o'r Tardis cyn annog y gynulleidfa i gyfrannu at Plant mewn Angen.

Yn 么l y Daily Mail, asiantaeth blant Ology oedd wedi dewis y bachgen.

Dydyn nhw heb ymateb i gais y 麻豆社 am ymateb.

Mae'n ymddangos nad oes gan Plant mewn Angen unrhyw gysylltiad uniongyrchol gyda Axel Rudakubana ac nad yw wedi bod yn rhan o unrhyw brosiect sydd wedi ei ariannu ganddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Elsie Dot Stancombe yn saith oed, Alice Aguiar yn naw a Bebe King yn chwech

Bu farw Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed ac Alice Aguiar, naw oed wedi iddyn nhw gael eu trywanu yn ystod dosbarth dawns ddydd Llun.

Ymddangosodd Axel Rudakubana, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, o flaen Llys y Goron Lerpwl, wedi ei gyhuddo o'u llofruddio.

Penderfynodd y barnwr godi'r cyfyngiadau sydd fel arfer yn atal y wasg a'r cyfryngau rhag cyhoeddi enwau diffynyddion dan 18 oed.

Mae Axel Muganwa Rudakubana wedi ei anfon i ganolfan gadw ieuenctid ac mae disgwyl iddo fynd o flaen yr un llys eto ar 25 Hydref, pan fydd disgwyl iddo gyflwyno ple.