Milwr wedi marw yn ystod ymarfer yng Nghrucywel

Cpl Chris “Gilly” GillFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Corporal Christopher Gill yn Aberhonddu ddydd Mercher, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn

  • Cyhoeddwyd

Mae milwr wedi marw yn ystod ymarfer milwrol ym Mhowys, mae'r heddlu wedi cadarnhau.

Bu farw'r Corporal Christopher Gill o'r 4ydd Bataliwn, Catrawd y Marchfilwyr yng Nghrucywel, ger Aberhonddu ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael gwybod am farwolaeth Cpl Gill toc wedi 01:00 fore Mercher a bod ymchwiliad ar y gweill gyda chefnogaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch

Mae'r milwr oedd yn cael ei nabod fel Gilly wedi'i ddisgrifio fel "milwr Gweithrediadau Arbennig rhagorol".

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr amser hynod anodd hwn," ychwanegodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Sul.

Fe ymunodd â'r Fyddin yn 2011, a chael ei anfon yn y lle cyntaf i dalaith Helmand yn Afghanistan, ble y bu'n hyfforddi "partneriaid arbenigol" maes o law.

Fe wasanaethodd hefyd yn Belize, Unol Daleithiau America, Kenya a Moroco cyn gwirfoddoli yn 2021 ar gyfer Gweithrediadau Arbennig y Fyddin.

Pynciau cysylltiedig