麻豆社

Heddlu yn ailagor ymchwiliad i Aelod Ceidwadol o'r Senedd

Laura Anne Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg yn erbyn Laura Anne Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae 麻豆社 Cymru ar ddeall bod Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i aelod Ceidwadol o'r Senedd, er eu bod wedi penderfynu cau'r achos yn wreiddiol.

Mae Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad ar 么l i negeseuon ddod i'r amlwg, oedd yn ymddangos fel pe bai'n gofyn i weithiwr wneud y mwyaf o'i hawliadau treuliau.

Yn 么l ffynhonnell, roedd yr heddlu wedi penderfynu na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn yr aelod, oherwydd nad oedd tystiolaeth o ddrwgweithredu.

Ond rydyn ni'n deall bod gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg sy'n golygu bod yr achos yn erbyn Ms Jones yn dal ar agor a'i bod hi'n parhau dan ymchwiliad.

Roedd Ms Jones wedi dweud y byddai'n cydweithio'n llawn gydag unrhyw ymchwiliad pan gafodd y stori wreiddiol ei chyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru "nad oedd y llu yn gallu rhoi diweddariad ar hyn o bryd."

Mae llefarydd ar ei rhan yn dweud bod 鈥淟aura wastad wedi gwadu鈥檙 honiadau yn ei herbyn".

鈥淢ae hi wedi parhau i weithio fel arfer yn y Senedd ac yn ei rhanbarth, ac mae hi allan yn gweithio i鈥檞 hetholwyr heddiw."

Mae 麻豆社 Cymru wedi gweld negeseuon testun am dreuliau o ff么n Ms Jones, lle mae'n ymddangos iddi ddweud wrth aelod o'i staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok."

Doedd cyd-destun y negeseuon WhatsApp yngl欧n 芒'i threuliau ddim yn amlwg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r negeseuon WhatsApp Saesneg rhwng Laura Anne Jones ac aelod staff

Dywedodd cyfreithiwr ar ei rhan ar y pryd bod "unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu cam-dybio yn llwyr".

Mae Ms Jones - Aelod dros Ddwyrain De Cymru - dan ymchwiliad ar hyn o bryd gan y Comisiynydd Safonau Douglas Bain a Heddlu De Cymru.

Yn 么l yr heddlu, y comisiynydd safonau - sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn aelodau'r Senedd - oedd wedi cyfeirio'r g诺yn atyn nhw.

Y gred ydy bod ymchwiliad y comisiynydd safonau wedi鈥檌 ohirio tra bod ymchwiliad yr heddlu鈥檔 cael ei gynnal.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi gofyn i Ms Jones gamu'n 么l o'i r么l yn ei gabinet tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond mae hi鈥檔 parhau i fod yn rhan o gr诺p y Ceidwadwyr yn y Senedd.