麻豆社

Hen ysbytai wedi cyfrannu at ledaeniad Covid - adroddiad

YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng Nghymru, bu farw 18,350 o gleifion oedd wedi cael eu heintio gyda Covid mewn ysbytai dros gyfnod o ddwy flynedd

  • Cyhoeddwyd

Roedd hen ysbytai ac oedi sylweddol wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty yn ystod y pandemig wedi golygu bod y Gwasanaeth Iechyd wedi ei chael hi鈥檔 anodd atal Covid-19 rhag lledaenu, yn 么l adroddiad newydd.

Mae鈥檙 Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi bod yn cydweithio 芒 byrddau iechyd i geisio dysgu gwersi yn sgil marwolaethau 18,350 o gleifion oedd wedi cael eu heintio gyda Covid mewn ysbytai dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae'r adroddiad terfynol hefyd yn tynnu sylw at y cymorth profedigaeth amrywiol oedd ar gael i deuluoedd, tra bod nifer o achosion hefyd pan nad oedd y cyfathrebu yn ddigonol.

Dywedodd GIG Cymru ei fod wedi cydnabod meysydd i鈥檞 gwella sydd 鈥測n parhau i fod yn flaenoriaeth i holl sefydliadau鈥檙 GIG鈥.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod 2,400 o gleifion wedi marw o fewn mis o gael eu heintio gyda鈥檙 cyflwr tra鈥檔 cael eu trin mewn ysbyty.

Er hynny, mae nifer o鈥檙 marwolaethau yma o ganlyniad i gyflyrau amrywiol, sy鈥檔 golygu ei bod hi鈥檔 amhosib gwybod faint o bobl oedd wedi marw yn sgil Covid yn benodol.

Beth oedd canfyddiadau'r adroddiad?

Mae鈥檙 Rhaglen Covid-19 Nosocomial Genedlaethol wedi bod yn adolygu cannoedd o achosion oedd wedi eu harchwilio gan y byrddau iechyd, tra鈥檔 nodi bod y gwaith ar wah芒n i Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y Deyrnas Unedig ac yn osgoi rhoi鈥檙 bai ar bobl neu awdurdodau.

Mae鈥檙 rhaglen wedi cydnabod nifer o sialensiau oedd yn bodoli yn ystod y pandemig ac yn awgrymu amrywiaeth o bwyntiau dysgu allweddol.

Roedd y pandemig wedi pwysleisio鈥檙 effaith mae pensaern茂aeth fodern, megis ystafelloedd unigol i gleifion, yn cael ei chael ar y gallu i reoli heintiau yn well.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y pandemig wedi pwysleisio鈥檙 effaith mae pensaern茂aeth fodern, megis ystafelloedd unigol i gleifion, yn cael ei chael ar y gallu i reoli heintiau yn well

Mae鈥檙 adroddiad yn nodi bod nifer o hen ysbytai gyda llai o gapasiti i ynysu cleifion, felly roedd nifer yn gorfod symud wardiau yn rheolaidd.

Doedd teuluoedd a gofalwyr yn aml ddim yn cael gwybod am y symud yma, gan olygu bod anawsterau pellach wrth ofyn am ddiweddariadau.

Yn ddiweddar, amcangyfrifwyd bod gan y GIG yng Nghymru 拢793m o waith cynnal a chadw i鈥檞 wneud tra bod bron i hanner yr adeiladau o leiaf 40 oed.

Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn nodi bod oedi wedi bod cyn rhyddhau nifer o gleifion oedd yn ffit i adael yr ysbyty, a hynny yn sgil pwysau digynsail.

Roedd yr oedi hynny wedi golygu cynnydd yn y risg o ddal yr haint, a dirywiad corfforol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adroddiad yn osgoi rhoi鈥檙 bai ar bobl neu awdurdodau

Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn nodi:

  • Bod rhai teuluoedd wedi cael profiadau drwg wrth geisio cael diweddariadau ar eu hanwyliaid, a hynny yn sgil pwysau ar staff a chyfyngiadau o ran ymweld 芒鈥檙 ysbyty;

  • Roedd y cyfyngiadau ar ymweld ag ysbytai hefyd wedi effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol y cleifion, yn enwedig y cleifion bregus a鈥檙 rheiny oedd methu deall yn llawn pam fod penderfyniadau'n cael eu gwneud;

  • Nid oedd gan nifer o sefydliadau鈥檙 GIG gymorth profedigaeth penodedig hyd nes y sefydlwyd fframwaith cenedlaethol yn 2021. Daeth hyn yn rhy hwyr i rai teuluoedd;

  • Roedd heriau recriwtio staff, yn ogystal 芒 bylchau staffio, wedi rhoi pwysau ar y staff oedd yn gweithio, ac er gwaetha鈥檙 ymdrechion mwyaf, roedd y gofal weithiau wedi dioddef.

Beth yw'r sefyllfa gyda'r feirws nawr?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu data yngl欧n 芒 nifer y bobl sy鈥檔 cael eu heintio gyda Covid mewn ysbytai o hyd.

Mae mwy na 2,300 achos o hyn yn digwydd wedi eu cofrestru hyd yma y flwyddyn hon.

Mae asesu sut mae Covid yn ymddwyn yn y gymuned yn awgrymu bod nifer yr heintiadau yn cynyddu a disgyn yn ystod y flwyddyn a dyw鈥檙 haint ddim yn ymddwyn yn dymhorol fel y ffliw.

Mae heintiadau Covid yn disgyn ar hyn o bryd ar 么l i'r achosion gyrraedd eu hanterth ddiwedd Gorffennaf.

Mae samplau ar hap o gannoedd o gleifion yng Nghymru yn awgrymu bod tua 18% o'r rheiny wnaeth brawf wedi profi鈥檔 bositif yn yr wythnosau diwethaf.

Mae 269 marwolaeth wedi eu cofrestru yn sgil Covid eleni 鈥 53% o鈥檙 lefelau a welwyd yn ystod yr un cyfnod y llynedd a 29% o鈥檙 hyn welwyd yn 2022.

Beth yw ymateb y GIG?

Fe wnaeth yr adroddiad interim y llynedd fynd i'r afael 芒 hysbysiad "peidiwch adfywio" - "do not resuscitate" - ac mae'r rhain yn codi eto yn yr adroddiad llawn.

Yn gynnar yn y pandemig roedd nifer o deuluoedd wedi rhannu eu pryderon bod 鈥渄ull cyffredinol鈥 o roi'r statws hwnnw ar bobl pan oedden nhw'n cael diagnosis Covid.

Roedd yr adolygiad wedi canfod bod angen gwelliannau mewn cyfathrebu ond nid oedd tystiolaeth bod statws wedi鈥檌 osod yn amhriodol, neu nad oedd yn cyd-fynd 芒 pholisi.

Roedd y canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd rhai nodiadau yngl欧n 芒 thriniaeth y cleifion yn cyrraedd y safon, ond roedd yn cydnabod 鈥減wysau system eithafol鈥 a oedd yn wynebu staff ar y pryd.

Fe wnaeth Jennifer Winslade, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan - yn siarad ar ran GIG Cymru - gydymdeimlo'n ddiffuant 芒 phawb a gollodd anwyliaid ar 么l dal Covid-19 mewn lleoliadau gofal iechyd, gan ddweud 鈥渘a ellir diystyru鈥檙 effaith".

鈥淏ydd datblygu ein dealltwriaeth am Covid-19 nosocomial a phrofiadau pobl yn cael effaith barhaol ar wella ansawdd y gwasanaethau gofal iechyd a ddarparwn yng Nghymru.鈥

Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, yr is-ganghellor meddygol ar ran Lywodraeth Cymru, eu bod nhw'n edrych am fwy o gysondeb ar draws y gwasanaeth iechyd.

鈥淣id wyf yn meddwl y gallwn atal y pethau yma [pandemigau], ond os bydd yn digwydd eto, credaf ein bod ni mewn gwell sefyllfa i ddelio 芒 hi," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Ysgrifennydd Iechyd, Mark Drakeford, oedd Prif Weinidog Cymru yn ystod y pandemig

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Mark Drakeford - a oedd yn brif weinidog yn ystod y pandemig - ei fod wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y canfyddiadau yn arwain at "newid ystyrlon" a gwelliannau yn safon y gofal a diogelwch cleifion.

"Hoffwn ddiolch i'r holl unigolion a sefydliadau ar draws y GIG yng Nghymru am eu hymroddiad i'r gwaith heriol yma," meddai.

"Hoffwn hefyd dalu teyrnged, a rhoi diolch, i'r holl deuluoedd a gollodd anwyliaid am eu hamynedd wrth i ni weithio i ganfod atebion iddyn nhw."

Galwodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Sam Rowlands, am foderneiddio'r GIG.

Dywedodd: "Mae nifer o argymhellion yr adroddiad hwn yn adlewyrchu galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi eu hanwybyddu hyd yma gan Lafur, o'r angen am fuddsoddi yn staffio'r GIG, dileu oedi wrth yrru pobl o ysbytai a chadw cofnodion digidol."