Â鶹Éç

Pan ddaeth Ian Beale ac Eastenders i chwarae pêl-droed yn erbyn Pobol y Cwm

Disgrifiad,

Ian Beale yn Rhydaman: Gêm Bêl Droed Pobol y Cwm ac Eastenders yn 1988

  • Cyhoeddwyd

Mae pawb o oedran arbennig yn cofio Brwydr Fawr Maes Dulyn, gêm gafodd ei chwarae ar gae Nantlle Vale ym Mhenygroes rhwng actorion y gyfres C’mon Midffîld a Pobol y Cwm yn 1990.

Fe gaeth y digwyddiad ei anfarwoli mewn cân gan Sobin a’r Smaeliaid, yn ogystal â chael ei ail-greu 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach gan rai o sêr presennol y byd teledu a cherddoriaeth yng Nghymru.

Ond pwy sy’n cofio actorion Pobol y Cwm (ac ambell i wyneb cyfarwydd arall) yn chwarae yn erbyn cast Eastenders yn 1988?

Fe wnaeth trigolion Albert Square y siwrna hir o 250 o filltiroedd o Lundain i chwarae yn Rhydaman mewn gêm arbennig i godi arian i ysbyty plant Great Ormond Street.

Ian Beale, neu’r actor Adam Woodyatt, oedd rheolwr tîm Eastenders ac yn y fideo uchod fe welwch chi o’n gweiddi cyfarwyddiadau i’r chwaraewyr.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig