麻豆社

Lluniau ffug 'ofnadwy' o Alex Jones fel hysbyseb ar WalesOnline

Alex Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymddangosodd y lluniau ffug o Alex Jones ymysg erthyglau go iawn ar ap WalesOnline

  • Cyhoeddwyd

Mae cyhoeddwr digidol wedi ei feirniadu am gynnwys hysbysebion gyda lluniau "ofnadwy" o'r cyflwynydd teledu Alex Jones a'r Canghellor.

Fe welodd defnyddwyr ap WalesOnline, sy'n cael ei weithredu gan gwmni Reach, luniau wedi eu creu gan ddeallusrwydd artiffisial o Rachel Reeves a Ms Jones gyda gwaed a chleisiau ar eu hwynebau.

Wrth glicio ar y lluniau, roedd yr hysbysebion yn tywys y darllenwyr i erthyglau oedd wedi'u dylunio i edrych fel safle Newyddion 麻豆社, ond oedd yn hyrwyddo arian digidol crypto.

Mae Reach wedi cael cais am ymateb.

Ffynhonnell y llun, Reach
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymddangosodd y lluniau ffug o Alex Jones a Rachel Reeves ymysg erthyglau go iawn ar ap WalesOnline

Mae Reach, y cwmni cyhoeddi mwyaf yn y DU ac Iwerddon, yn gyfrifol am rai o frandiau mwyaf adnabyddus y diwydiant newyddion - gan gynnwys y Mirror a'r Express.

Mae gweithrediadau Cymreig Reach yn cynnwys WalesOnline a phapurau fel y Western Mail a'r South Wales Evening Post.

Fe ymddangosodd y lluniau ffug o Alex Jones a Rachel Reeves ymysg erthyglau go iawn ar ap WalesOnline.

Roedd darllenwyr a oedd yn gwasgu ar y lluniau yn cael eu tywys i erthygl ffug oedd wedi'i ddylunio i edrych fel safle Newyddion 麻豆社, a oedd yn hyrwyddo cryptoarian.

'Croesi'r llinell'

Mae'r aelod cabinet ar gyfer diwylliant i Gyngor Caerdydd, Jennifer Burke-Davies, wedi dweud bod yr hysbysebion yn "ofnadwy".

Wrth ysgrifennu ar X, dywedodd Ms Burke-Davies: "Oes gan Reach neu WalesOnline gyfrifoldeb i wirio'r hyn sy'n cael eu harddangos fel hysbysebion ar eu platfformau? Mae'r math yma o luniau yn croesi'r llinell."

Dywedodd defnyddiwr arall ar X fod yr hysbysebion yn "dystopaidd" a "sothach".

Mae Alex Jones a'r Canghellor wedi cael cais i ymateb.