麻豆社

Ymddygiad 'ymosodol a hiliol' at blant ar-lein

Merch ar-leinFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd wedi canfod bod plant oedran ysgol yn dioddef o ymddygiad "gwenwynig, ymosodol a hiliol" ar-lein.

Mae'r arolwg gan y comisiynydd plant hefyd yn dangos fod llai na thraean o blant oedran ysgol yn cael trafodaethau agored gyda'u teulu am yr hyn y maent yn ei wneud ar lwyfannau digidol.

Cymerodd plant oedran ysgol rhwng 7-18 oed ran yn yr arolwg.

Dywedodd Ofcom, sy'n goruchwylio diogelwch ar-lein, eu bod yn bwriadu cwblhau codau ymarfer i amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol a pheryglus erbyn gwanwyn nesaf.

Cymerodd 1,284 o blant a phobl ifanc ran yn yr arolwg o 16 awdurdod lleol ar draws Cymru.

Canfuwyd bod 76% o blant yn dweud eu bod yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel ar-lein, a phetawn nhw'n gweld rhywbeth a oedd yn eu cynhyrfu neu'n poeni, yna y byddent yn dweud wrth eu rhieni neu yn adrodd amdano i'r platfform.

Fodd bynnag, mae'r arolwg yn dangos mai ond 32% oedd yn teimlo bod eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif pan yn adrodd yn uniongyrchol i'r platfform.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mererid a Brynmor - dau ifanc sy'n ymwybodol o rai o beryglon y we

Wrth iddi gael ei holi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, dywedodd Mererid, sy'n 10 oed ac o Nanhyfer yn Sir Benfro bod y we "yn gallu bod yn hwyl".

Ond fe ychwanegodd bod yna "ochor beryglus hefyd".

Mae angen i blant a phobl ifanc fod yn ofalus ar-lein, meddai, "rhag ofn bod pobol yn bwlio chi" ac i wneud yn si诺r fod y pethau maen nhw'n eu gweld yn "addas".

Fe gytunodd Brynmor, sy'n wyth oed ac yn byw ger Aberteifi, bod "pethau peryglus yn gallu bod arno fe".

Ychwanegodd y dylai plant "fod yn ofalus iawn o be' maen nhw'n gweld achos mae'n gallu 'neud nhw'n drist".

'Y plant sy'n talu'r pris'

Dywedodd Lewis Lloyd o Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru bod profiadau rhai plant ar-lein yn "codi pryder".

Fe ddywedodd: "Ni wedi clywed am brofiadau o blant naw oed yn sgwrsio gyda dieithriaid ar-lein, yn cael profiadau negyddol, hyd yn oed yn profi hiliaeth ar apiau fel Roblox.

"Ni hefyd wedi clywed bod diffyg hyder yn y systemau reportio, ac mae rheini i gyd yn bethau ni'n gobeithio bydd Ofcom yn mynd i afael gyda wrth ddefnyddio ei bwerau newydd sy'n dod i rym.

"Y plant sy'n talu'r pris mewn ffordd bod dim digon o reolau llym wedi bod ar blatfformau digidol dros y blynyddoedd."

Ffynhonnell y llun, Peter Byrne/PA Wire

Mynegodd athrawon bryderon hefyd am yr effaith y mae amser sgr卯n y plant yn ei chael ar eu haddysg, gyda rhai yn adrodd eu bod yn gweld effaith blinder ymhlith disgyblion gan eu bod yn chwarae gemau tan yn hwyr yn y nos.

Mae'r arolwg yn amlygu pryderon am wefannau fel Youtube a Roblox, g锚m realiti.

Pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio eu profiad, dywedodd rhai pobl ifanc eu bod wedi gweld "ymddygiad anghwrtais neu ymosodol" yn ogystal 芒 theimlo'n anniogel oherwydd bod defnyddwyr yn gallu siarad 芒 phobl nad ydynt yn eu hadnabod.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Roblox bod y g锚m yn caniat谩u i ddefnyddwyr "greu a rhannu profiadau gyda ffrindiau" a bod "diogelwch a chwrteisi yn sylfaenol" i'r platfform.

Ychwanegodd bod ganddyn nhw fesurau diogelwch "cadarn" i "warchod aelodau iau'r gymuned", a bod modd hefyd i rieni a gofalwyr gyfyngu ar bwy sy'n gallu cysylltu 芒'u plant.

Codau ymarfer gwanwyn nesaf

Dywedodd Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru, y bydd Ofcom yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad yn ofalus.

Fe ddywedodd: "Mi fydd y codau ymarfer pan fydden nhw'n dod i rym, rywbryd yn ystod gwanwyn nesaf, yn gosod goblygiadau cyfreithiol ar y cwmn茂au technegol a bydd disgwyl iddyn nhw i lynu at yr ymrwymiadau hynny.

"Ond wrth gwrs does dim rhaid i'r cwmn茂au aros tan y canllawiau hynny - mae modd iddyn nhw i gymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu ar-lein nawr.

"Ni'n gwybod bod lot fawr o blant yn mynd ar-lein ac yn dod ar draws cynnwys sydd ddim yn addas i'w oedran nhw, a ni'n gwybod bod rhai o'r llwyfannau ddim yn gwirio oedran plant yn y ffyrdd mwyaf effeithiol.

"Mi fydd ein codau ymarfer yn gosod ymrwymiadau cyfreithiol ar y gwasanaethau i sicrhau bod nhw'n cymryd camau i wirio oedran y plant."