Apêl am eitemau sy'n atgof o Hen Goleg Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Yr Hen Goleg - adeilad rhestredig Gradd I eiconig ar lan y môr yn Aberystwyth

Mae yna apêl i unrhyw un sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth neu weithio yn yr Hen Goleg i gyfrannu unrhyw eitemau sy'n atgof o'u cyfnod yn yr adeilad eiconig.

Fe fydd yna gyfle brynhawn Gwener i bobl fynd â chreiriau perthnasol i'r bandstand ar y prom a'u dangos i dîm archifau’r Brifysgol ac ymchwilwyr sy'n cofnodi hanes yr Hen Goleg.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Lois Roberts, bod y brifysgol yn awyddus i weld "popeth ac unrhyw beth" sydd â'r potensial "i greu darlun cyfan o'r Hen Goleg".

"'Sa hynny'n gallu bod yn ffotograffau, ffurflenni, cylchgronau - hyd yn oed dillad," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.

"'Di o ddim otsh faint o fach 'dach chi'n meddwl ydi o - 'sa fo'n gallu bod yn arwyddocaol a chreu stori fwy na 'dach chi'n disgwyl."

Fe fydd modd i'r ymchwilwyr sganio lluniau a dogfennau sy'n dod i'w sylw ond fe fyddan nhw "hefyd yn hapus i drafod rhoddion i’r archif", medd y brifysgol.

I'r rhai na sy'n gallu mynd i'r bandstand ddydd Gwener mae modd cysylltu â'r brifysgol yn uniongyrchol i drafod unrhyw eitemau yn eu meddiant all fod o ddiddordeb.

Mae'r digwyddiad yn rhan o ddathliadau blynyddol Diwrnod y Sylfaenwyr, sy'n nodi diwrnod agor drysau'r coleg am y tro cyntaf yn Hydref 1872.

Fe groesawodd y Cofrestrydd-Lyfrgellydd, Thomas Charles Edwards, 25 o fyfyrwyr i "hen westy anorffenedig" wedi ei addasu, a ddatblygodd i fod yr hyn a gafodd ei alw'n "Brifysgol y bobl".

Mae'r adeilad rhestredig Gradd 1 eisoes "wedi datgelu llawer o’i hanes fel rhan o'r cynllun £43m sy'n mynd rhagddo i adnewyddu'r Hen Goleg, gan gynnwys olion tân mawr a ddinistriodd rhan ogleddol yr adeilad yn 1885.

Wrth glirio adeilad De Seddon, daeth gweithwyr o hyd i ddarn o bren wedi'i guddio yn un o'r waliau gyda'r geiriau Home Rule for Ireland wedi ei ysgrifennu arno mewn inc du.

Mae ochr arall y pren wedi'i arwyddo gan John Williams o 8 Stryd y Farchnad, gyda'r dyddiad Chwefror 1888.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Yn ôl ymchwil prosiect cofnodi hanes yr Hen Goleg, mae cofnodion Pwyllgor Adeiladu'r Brifysgol yn dangos ei fod wedi gweithio fel saer coed y coleg rhwng 1888 a 1892.

"Mae John Williams yn un o’r nifer fawr o bobl sydd wedi gweithio ar yr Hen Goleg dros y ganrif a hanner ddiwethaf ac wedi cyfrannu at ei ddatblygiad," cydlynydd casgliadau'r prosiect, Faye Thompson.

"Mae’r darn o bren sy’n dwyn ei enw yn rhoi cipolwg i ni ar y gorffennol, pwy ydoedd, lle’r oedd yn byw, beth oedd ei waith a’r hyn a gredai ynddo, ond byddai'n wych dysgu mwy amdano."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Delwedd artist o ran o'r Hen Goleg wedi'r holl waith adnewyddu

Mae'n fwriad i adrodd hanes y Brifysgol "o’r blynyddoedd cynnar hyd at heddiw" ym mharth Byd Gwybodaeth yr adeilad ar ei newydd wedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni’r Brifysgol, Lyndsey Stokes: "Byddai'n hyfryd gweld a oes unrhyw beth a allai fod wedi cael ei drosglwyddo i lawr dros y cenedlaethau yn lleol yma yn Aberystwyth y gallem ei ychwanegu at hanes hynod yr adeilad gwych hwn."