Cyn-Ysgrifennydd Cymru yn gweithio i AS dadleuol

Disgrifiad o'r llun, Dywed David TC Davies ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Senedd Cymru fel aelod o staff yr AS Ceidwadol, Laura Anne Jones

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn swydd fel uwch ymgynghorydd i Aelod o'r Senedd Ceidwadol sy'n destun ymchwiliad heddlu.

Roedd Mr Davies yn rhan o lywodraeth Rishi Sunak ac fe gollodd sedd Mynwy yn yr etholiad cyffredinol mis Gorffennaf.

Bu hefyd yn cynrychioli Mynwy yn yr hen Gynulliad Cenedlaethol - Senedd Cymru erbyn hyn - rhwng 1999 a 2007.

Mae bellach yn gweithio i AS Dwyrain De Cymru, Laura Anne Jones, sy'n destun ymchwiliad yn dilyn honiadau o hawlio treuliau ffug.

Dychwelyd i Fae Caerdydd 'yn ormod o demtasiwn'

Mewn neges at ei dudalen LinkedIn dros y penwythnos, fe ddywedodd Mr Davies bod "y cyfle i ddychwelyd i'r Senedd ar ôl 17 o flynyddoedd yn ormod o demtasiwn i'w wrthod".

Ychwanegodd ei fod "yn edrych ymlaen at ailgysylltu gyda ffrindiau o bob ochr o'r sbectrwm gwleidyddol mis nesaf".

Bydd gwaith yn ailddechrau yn y Senedd wedi toriad yr haf ar 16 Medi.

Dywedodd Mr Davies ei fod wedi treulio'r haf yn gweithio fel ymgynghorydd gan "helpu mudiadau ddeall sut i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth wrth iddi fynd trwy'r Senedd", a bod hynny "yn llai o straen" na bod yn weinidog mewn cabinet llywodraeth.

Mae yna ddyfalu wedi bod y gallai Mr Davies, a nifer o gyn ASau Ceidwadol eraill a gollodd eu seddi yn yr etholiad cyffredinol, ymgeisio i fod yn Aelodau o'r Senedd pan fydd nifer yr ASau yn codi o 60 i 96 yn 2026.

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i Laura Anne Jones gamu'n ôl o gabinet yr wrthblaid yn y Senedd yn sgil negeseuon testun ynghylch hawlio treuliau

Mae Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad heddlu ynghylch ei threuliau wedi i Gomisiynydd Safonau Senedd Cymru, Douglas Bain, gyfeirio'r achos at Heddlu De Cymru.

Ym mis Mehefin fe welodd Â鶹Éç Cymru negeseuon testun o ffôn Ms Jones yn gofyn wrth aelod staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok".

Dyw'r cyd-destun ar gyfer y negeseuon WhatsApp ddim yn amlwg.

Dywedodd cyfreithiwr ar ei rhan ar y pryd: "Mae Ms Jones yn fodlon bod unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu camdybio yn llwyr."

Mae'r heddlu wedi dweud bod eu hymholiadau yn parhau i'r achos.

Fe ymddiheurodd Ms Jones ym mis Awst wedyn am ddefnyddio term hiliol sy'n sarhau pobl o dras Chineaidd mewn neges grŵp WhatsApp.

Dywedodd ei bod wedi defnyddio'r term mewn cysylltiad â'r ap TikTok, sy'n eiddo i gwmni technoleg o China.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Jones bod y term yn "annerbyniol ac rwy'n difaru'n fawr ei ddefnyddio".