麻豆社

Endaf Emlyn: 'Anodd ymweld 芒 chyfnodau tywyll' ond pwysig

Endaf EmlynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

"Un o broblemau iechyd meddwl yw bod rhywun yn gyndyn o s么n am y pethau yma," medd y canwr Endaf Emlyn sydd ar fin cyhoeddi ei hunangofiant.

Fe fydd y gyfrol yn dathlu hanner canmlwyddiant rhyddhau ei record Salem ac ynddi mae'n trafod yn gyhoeddus am y tro cyntaf ei iselder yn fachgen ifanc.

Mae'n annog dynion eraill i siarad mwy am iechyd meddwl.

Wrth siarad 芒 Nest Jenkins yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg dywed ei bod yn anodd iawn ymweld 芒 chyfnodau tywyll ei ieuenctid tra'n ysgrifennu'r gyfrol.

"Mi 'nes i fwy nag un fersiwn ac mi 'nes i beidio s么n amdano fwy nag unwaith a wedyn mynd yn 么l a deud ddylai fi ddim peidio s么n am bethau felly achos yn rhannol dyna'r broblem - bo ni'n gyndyn o s么n am y pethau yma.

"Wrth gwrs peth hollol naturiol yw e - ni cheir y melys heb y chwerw - mae'n rhan o fywyd bod yna drafferthion, bod yna galedi, bod yn anhapusrwydd.

"Do, mi ges i gyfnod blin - dwi'n meddwl bo' fi dan bwysau i berfformio yn gyson ac roedd hynny yn groes i fy natur i er mod i'n medru ei wneud o, wrth gwrs."

Dywed hefyd bod gwaeledd ei fam pan yn blentyn ysgol uwchradd wedi cael cryn effaith arno.

"O'dd fy mam yn gwaelu yn ystod fy arddegau. Pan mae rhywun yn mynd dros y tresi, yn gwthio'r ffiniau a bod yn anodd do'dd o ddim moi'r cyfnod gorau i mi ddelio efo sefyllfa Mam.

"16 o'n i pan fu farw Mam. Bu'n gwaelu am gyfnod hir ac mae rywun yn teimlo euogrwydd afresymol - di-sail wrth edrych yn 么l - na fu rywun yn fwy o gysur yn yr adeg o gystudd.

"Hwnna fi'n credu 'nath ddyfnhau fy iselder i. Dim ond pryd 'nes i gyfarfod fy ngwraig y des i allan o'r pydew."

Mae鈥檙 gyfrol yn olrhain lle鈥檙 darlun eiconig Salem gan Curnow Vosper ym mywyd Endaf Emlyn.

"Bob tro ro'n i'n mynd i Lanfairfechan - i gartref fy ewythr a'm modryb, ro'n i'n cyfarch Sian Owen, T欧'n-y-fawnog oedd ar y wal," meddai a dywed bod y g芒n adeg ei recordio 50 mlynedd yn 么l yn cyfeirio "at ffordd o fyw oedd yn pasio heibio, ar drai".

"Roedd y record o'm hochr i yn mynegi hiraeth am ddylanwad a gwerthoedd cymdeithas fy mhlentyndod a dwi'n meddwl fod pobl eraill wedi gallu uniaethu wrthi iddyn nhw hefyd hiraethu am rywbeth gwerthfawr oedd yn prinhau."

Yn y gyfrol ac yn ei gyfweliad sonia hefyd am ddylanwad capel Pen-mownt ym Mhwllheli arno.

"O'n i'n cael ein socian mewn Methodistiaeth ac yn mynd i'r capel rhan fwyaf o nosweithiau'r wythnos a theirgwaith ar y Sul.

"Roedd dydd Sul yn ddydd cysegredig a doeddwn i ddim yn cael chwarae p锚l na dim byd. O'dd e'n ddylanwad cyson drwy fy mhlentyndod ac yn ddysgeidiaeth hefyd.

"O'n i yn un o'r rhai hynny oedd yn tueddu i wrando ar y pregethau os oedden nhw'n ddiddorol - o'dd e'n cael cryn effaith arnai."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y 鈥榮i诺per gr诺p鈥 Cymraeg - Injaroc, gyda'r aelodau (blaen) Geraint Griffiths, Endaf Emlyn, Caryl Parry Jones, Cleif Harpwood, Hefin Elis, (cefn) John Griffiths, Charli Britton a Sioned Mair

Yn yr hunangofiant Salem a Fi fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Hydref mae yna gyfeiriadau hefyd at ddyddiau cynnar Endaf Emlyn yng Nghaerdydd 鈥 yn cychwyn gweithio ar raglenni cerddoriaeth yn y 麻豆社 a HTV ac yna yn mentro i Lundain i chwilio am label recordio.

鈥淒oedd 鈥榥a ddim llawer o recordiau canu poblogaidd Cymraeg bryd hynny a doedd na chwaith ddim llawer o labeli yn cyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg.

鈥淔elly, yn 1970, mi es i Lundain gyda th芒p chwarter modfedd yn fy llaw, gyda鈥檙 gobaith o ennill fy mara menyn fel cyfansoddwr caneuon.

鈥淭rwy Tony Hatch a鈥檌 gwmni cyhoeddi M&M, mi gafodd fy ngwaith ei gyflwyno i鈥檙 bobl bwysig yn EMI, ac fe gefais gytundeb pedair record sengl ar label Parlophone 鈥 yr un label 芒鈥檙 Beatles.鈥

Bu鈥檔 recordio caneuon yn Abbey Road, ond collodd ffydd yn y diwydiant mympwyol gyda鈥檙 labeli mawr yn Llundain, a sylweddolodd yn eithaf buan ei fod yn cael llawer mwy o foddhad yn cyfansoddi caneuon yn y Gymraeg, am lefydd a phobl yng Nghymru.

Mae鈥檙 llyfr yn rhannu cefndir amryw o recordiau mwyaf llwyddiannus Endaf Emlyn, gan gynnwys ei record hir gyntaf, Hiraeth, a鈥檙 ddwy albwm boblogaidd Syrffio Mewn Cariad a Dawnsionara.

Mae hefyd yn rhannu hanesion am gyfnod y 鈥榮i诺per gr诺p鈥 Cymraeg, Injaroc, a鈥檜 hanesion yn teithio o amgylch Cymru cyn i鈥檙 gr诺p chwythu ei blwc.

Mae cyfweliad Endaf Emlyn i'w glywed yn llawn ar Bwrw Golwg am 1230 ddydd Sul 20 Hydref ac yna ar 麻豆社 Sounds.