Â鶹Éç

Rhyddhau cân newydd Iwan Llwyd 10 mlynedd ers ei farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Geraint Løvgreen ac Iwan LlwydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Hen ffrindiau - Geraint Løvgreen ac Iwan Llwyd

Cyn ei farwolaeth, roedd y bardd Iwan Llwyd a'i ffrind a chyd-gerddor Geraint Løvgreen yn mynd o gwmpas tafarndai Cymru yn cynnal nosweithiau gyda'i gilydd.

Byddai nhw'n perfformio caneuon oedd yn fwy addas ar gyfer set deuawd acwstig yn hytrach na band llawn yr Enw Da.

Nawr, er mwyn cofio amdano mae Geraint Løvgreen wedi rhyddhau un o'r caneuon hynny gyfansoddwyd gan ei ffrind.

Bu'n sôn ar raglen Bore Cothi fod ei ffrind Barrie 'Archie' Jones, y cyfansoddwr ac aelod o'r grŵp Celt, wedi cysylltu yn ddiweddar i'w atgoffa o'r gân recordiwyd rhai blynyddoedd yn ôl, ar ôl i Iwan farw.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Iwan Llwyd

Meddai Geraint: "Nes i recordio yn nhÅ· Archie a doeddwn i ddim yn cofio amdano fo dweud gwir tan i mi gael neges gan Archie wythnos yma, ac yn dweud ei bod yn 10 mlynedd.

"Y gân ydi Hen Drefn - "Hen drefn, hen drafod, hen dorri ar yr un cyfamod, hen syrthio rhwng y pared a'r pry, hen dân mewn hen dŷ".

"Mae'n gân eitha' tywyll a thrist... mae'n swnio fel un o'r hen benillion a'r gair 'hen' o hyd yn ail adrodd... 'hen friw yn hir yn mendio a mynd, hen ffrae efo hen ffrind hen bader hen bennill, hen frwydr does neb yn ennill.

"Dwi'n gweld y gân yn ysgytwol o broffwydol erbyn hyn fel bod o wedi proffwydo ei hun yn mynd lawr ac yn methu codi allan o'r sefyllfa."

Roedd Iwan Llwyd, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 ac yn awdur ar gyfer y teledu a'r theatr, wedi chwarae mewn bandiau ar hyd ei oes.

Ar ôl bod yn aelod o Doctor yn yr 1980au, bu'n chwarae'r gitâr bas am flynyddoedd gyda bandiau Steve Eaves a Geraint Løvgreen a'r Enw Da.

Bu ar Fai 28, 2010, yn 52 oed.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Hel atgofion efo cyd-aelodau'r grŵp Doctor

Meddai Geraint: "Roedd Iwan yn fardd yn fwy na dim ond yn sgwennwr caneuon arbennig a dwi ddim yn meddwl bod pobl wedi sylweddoli cymaint o ganeuon mae o wedi sgwennu fel TÅ· Coz Dafydd Dafis a chlasuron eraill.

"Wnaeth o sgwennu dipyn o ganeuon ei hun, roedd o hefyd yn sgwennu dipyn o eiriau a fi'n rhoi alaw iddyn nhw, ond roedd o'n sgwennu caneuon cyfan ei hun.

"Cerbyd i ganeuon Iwan oedd Doctor a dwi'n jest yn teimlo yn lwcus mod i wedi rhannu gymaint o amser efo fo wedyn, pan ddaeth Doctor i ben ein bod ni wedi gwneud Geraint Løvgreen a'r enw da a'i fod o wedi bod ar y bas efo fi drwy'r amser.

"Gan mod i dal i fynd o gwmpas efo'r grŵp - ond heb wneud ers rhai misoedd rŵan wrth gwrs - dwi wrth fy modd bod cymaint o'i ganeuon o geno ni yn y set a pan dwi'n canu ei ganeuon o dwi'n teimlo bod o yn bresennol o hyd."

Hefyd o ddiddordeb:

Cofio Iwan Llwyd yn y Steddfod