|
|
Â鶹Éç Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
» | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
StraeonAled SionPwy ydi'r cyfarwyddwr newydd?
Brodor o Nantgaredig yw Aled Sion, 42 oed, Cyfarwyddwr newydd Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Elisabeth I yng Nghaerfyrddin cyn bod yn un o'r criw cyntaf i fynd i'r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Myrddin. Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, treuliodd ddwy flynedd yn athro yn Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Morgan Llwyd. Yn 1988 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, gan ei ddyrchafu'n Bennaeth yno yn 1993. Wedi chwe blynedd yn arwain Glan-llyn fe'i penodwyd yn 1999 yn drefnydd y de yr Eisteddfod Genedlaethol ond dychwelodd i Lan-llyn yn gyfarwyddwr yn 2004. Mae'n yn byw gyda'i deulu yn Llanuwchllyn ac ymysg ei ddiddordebau mae cerddoriaeth, ynghyd â cherdded a beicio. Yn gyn-aelod o'r grŵp Eryr Wen, mae o bellach yn canu efo Côr Mawr Llanuwchllyn a gyda Thrigogahwntw (Aled ydi'r hwntw!). Ar fin cychwyn yn ei swydd newydd dywedodd: "Dwi'n edrych ymlaen i barhau â'r gwaith da sy'n cael ei wneud gan Eisteddfod yr Urdd. Dwi'n gobeithio parhau i sicrhau bod bwrlwm ar y maes a gwneud yn siŵr bod profiadau'r Eisteddfod yn rhai cyffrous i bawb." Cysylltiadau
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |