|
|
Â鶹Éç Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
» | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
StraeonLlywydd dydd MawrthShân Cothi cantores o'r Shir
Yn gantores o fri daeth Shân Cothi i amlygrwydd fel actors hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy ei rhan fel Davina yn y gyfres deledu, Con Passionate
Ym mhentref Ffarmers, Shir Gâr, y ganwyd Shân. Graddiodd mewn Drama a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac mae hi hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgolion Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth. Rhuban Glas Ar ôl ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abergele, 1995, penderfynodd Shân fynd yn gantores broffesiynol ac ers hynny mae wedi perfformio mewn canolfannau ar hyd a lled y byd - gan gynnwys, Llundain i Efrog Newydd, Moscow a Hong Kong. Ar Â鶹Éç Radio Cymru mae ganddi raglan reolaidd bob bore Sul yn cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth ysgafn ac enillodd rhaglen y bu'n ei chyflwyno ar S4C wobr BAFTA a'i henwebu ar gyfer y rhaglen gerddoriaeth orau yng Ngŵyl Montreaux. Yn 2000 chwaraeodd ran Carlotta yn Phantom of the Opera yn y West End. Ymhlith nifer o ymddangosiadau teledu mae Divas I a II gydag Owain Arwel Hughes, Music Under the Stars gyda Bryn Terfel a Michael Ball yng Ngŵyl y Faenol, Messiah gyda Bryn Terfel, Rhys Meirion ac Eirian James, Cyngerdd Cariad yn Neuadd Dewi Dant Caerdydd gyda Cherddorfa Gymreig y Â鶹Éç a Gwyn a Shân gyda'r tenor Gwyn Hughes Jones. Rhan gyntaf Yna, yn 2005 cafodd Shân ei rhan gyntaf mewn cyfres ddrama hynod boblogaidd Con Passionate ar S4C. Perfformiodd gydag Only Men Aloud mewn cyngerdd i anrhydeddu Dame Shirley Bassey, Dame Gwyneth Jones, Siân Phillips, Alun Hoddinott, a Syr Richard Burton ac yn 2005 a 2006 perfformiodd yn y sioe gerdd Amazing Grace gan Mal Pope a Frank Vickery. Recordiodd ei halbwm cyntaf, Passione gyda Cherddorfa Siambr Genedlaethol Cymru dan arweiniad John Quirk. Cysylltiadau
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |