|
|
Â鶹Éç Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
» | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
StraeonSeremonïau'r wythnosSeremoni ar gyfer pob diwrnod
Mae prif seremoni bob diwrnod yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin gan gychwyn gyda seremoni i gyflwyno prif wobrau y cystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg dan arweiniad Heledd Cynwal yn ystod y seremoni agoriadol fore Llun.
Wedyn bydd seremoniau fel a ganlyn: Dydd Llun - Y Fedal Lenyddiaeth Rhodd Clwb Cinio Caerfyrddin. Meistr y Ddefod eleni yw Betsan Williams a'r beirniaid yw Ifor ap Glyn a Karen Owen. Dydd Mawrth - Medal y Dysgwyr Rhodd Merched y Wawr, Rhanbarth Sir Gaerfyrddin ynghyd â £200 o gymorth ariannol i loywi iaith yr enillydd, rhoddedig gan y teulu er cof am y diweddar Greville James, Cwmafan. Meistr y Ddefod eleni yw Ion Thomas a'r beirniaid yw Euros Jones Evans a Lisa Jane Davies. Dydd Mercher - Y Fedal Ddrama Rhodd Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Meistr y Ddefod yw Elin Llwyd a'r beirniaid yw Siwan Jones ac Ian Staples. Dydd Iau - Cadeirio Rhodd Manon, Heledd, Matthew, Anona a Tom Talog Davies er cof am Caryl Mai, a chan Melingoed Cyf, Castell Newydd Emlyn. Meistr y Ddefod yw Tudur Hallam a'r beirniaid yw Emyr Davies a Mari George. Nos Iau - Cyflwyno Medal John A Ceridwen Hughes, Uwchaled I gydnabod cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid yng Nghymru. Cyflwynir gan Dewi a Gerallt Hughes. Meistr y Ddefod, Gareth James, Llywydd yr Urdd. Dydd Gwener - Coroni Rhoddir replica o'r goron eleni gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Meistr y Ddefod yw Fflur Dafydd a'r beirniaid yw Dylan Iorwerth a Mari Stevens. Fel rhan o'r wobr cynigir lle ar gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, i'r cyntaf, ail a thrydydd yng nghystadlaethau'r Gadair, y Goron, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Lenyddiaeth, a'r Fedal Ddrama. Nos Wener - Defod Tlws y Prif Gyfansoddwr Cyflwynir Medal Grace Williams gan Ysgol Bro Myrddin ynghyd â Gwobr Glynne Jones (£600) gan Ymddiriedolaeth Pendyrus. Meistr y Ddefod fydd Rhian Mair Lewis a'r beirniad yw Dr Lyn Davies. Cysylltiadau
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |