|
|
Â鶹Éç Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
» | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
StraeonHwb gan Siân i daith feithrinCyhoeddi CD ar faes yr Urdd
Rhoddir hwb arbennig i daith gan y Mudiad Ysgolion Meithrin ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Ac ar gyfer cychwyn Taith Gŵyl Feithrin bydd plant bach yn ymuno â'r gantores Siân James i ganu ac actio a chyhoeddi CD newydd.
Bydd y cyfan yn digwydd am 1.00 yn Stiwdio 5. Yn rhan o'r daith yn ystod tair wythnos olaf mis Mehefin bydd y Mudiad yn ymweld ag ugain o leoedd ar hyd a lled Cymru ac yn ddiddanu tua 7,000 o blant a'u rhieni. Mae Siân James wedi cynhyrchu CD o ganeuon gwerin yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac yn rhan o becyn adnoddau'r ar y thema Adar ac Anifeiliaid a bydd hwnnw ar werth yn yr Eisteddfod. . "Dwi wirioneddol wedi mwynhau cynhyrchu'r CD yma. Roeddwn i wedi bod yn chwarae efo'r syniad o gynhyrchu CD o ganeuon gwerin i blant ers blynyddoedd, ac mae'r cais a gafwyd gan Mudiad Ysgolion Meithrin wedi rhoi hwb i mi i wireddu hyn," meddai Sian. Mae'r CD yn gymysgedd o hen ffefrynnau fel Gee Ceffyl Bach a chaneuon llai cyfarwydd fel Aderyn Bach Syw yn ogystal â threfniannau newydd. "Pan gytunodd Siân James i greu'r CD yma roeddem ni wrth ein boddau gan mai hi yw'r amlycaf ymhlith cantorion traddodiadol modern yng Nghymru," meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata'r Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn dilyn y digwyddiad yn yr Eisteddfod bydd y daith ei hun yn cychwyn fore Llun, Mehefin 11 ym Merthyr Tudful Derbyniodd y Mudiad £5,000 gan raglen grantiau loteri 'Arian i Bawb Cymru' ar gyfer talu am leoliadau. Cysylltiadau
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |