Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»
Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Valerie Wood-Gaiger gyda'i llyfr

Chwilio am lais mam-gu

Neiniau'n cystadlu ar faes yr Urdd!

Mewn cornel o eisteddfod sydd i fod ar gyfer ieuenctid yr oedd hanner dwsin o neiniau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd eleni.

Ac yr oedden nhw yr un mor frwd ag unrhyw un o'r cystadleuwyr eraill i gael eu dewis i fod yn llais nain y tu ôl i lyfr Cymraeg sydd ar y gweill.

Neiniau cystadleuol A Mam-gu o Langwyryfon sydd ag wyth o wyrion a fu'n fuddugol - ac yr oedd pump o'r wyrion hynny yno ar faes yr Urdd i ddathlu efo hi.

Gwraig fferm wedi ymddeol yw Mari Jones a dywedodd ei bod wrth ei bodd yn darllen straeon i'w hwyrion.

"Weithiau mae gan fam-gu fwy o amser na rhieni i wneud hynny," meddai.

Ond dywedodd nad oedd erioed wedi cymryd rhan mewn 'cystadleuaeth' fel hon o'r blaen - hyd yn oed yn ferch fach doedd hi ddim yn adroddwraig na llefarydd.

"Na, dwi erioed wedi gwneud dim byd tebyg," meddai.

Bydd hi'n awr yn mynd ymlaen i leisio fersiwn Gymraeg ar DVD o lyfr The Ice Journey yn y gyfres Learn with Grandma Stories" gan Valerie Wood-Gaiger sy'n byw ym Myddfai ger Llanymddyfri.

Sefydlodd Valerie ei chwmni wedi iddi golli ei gwaith rai blynyddoedd yn ôl ac mae'r pecyn addysgol o lyfr, DVD a CD-ROM wedi ei anelu at blant "rhwng saith a 70!" meddai.

Mae'r llyfr cyntaf yn ymwneud â chychwyn gwareiddiad a gwreiddiau'r Celtiaid gyda'r hanes yn cael ei adrodd gan fam-gu.

Ar gyfer fersiwn Gymraeg trefnodd Valerie, sydd mewn partneriaeth â Carroll Nunnerley, wrandawiadau rhanbarthol ar hyd a lled Cymru gyda'r cyfan yn dod i fwcl ar faes Eisteddfod yr Urdd ddoe (dydd Iau) pan ddaeth chwech o neiniau - yn cynnwys un faeres - i ddarllen yn Gymraeg gerbron panel o feirniaid.

Amser stori - Mari gyda Glenys ac Anne, ei merched,  a phump o'i hwyrion A Mari, a oedd wedi ei dewis i gynrychioli Merched y Wawr yn y gystadleuaeth anarferol hon, a ddewiswyd ganddynt i fod yn llais straeon mam-gu yn y Gymraeg.

"Mae'r cynllun hwn yn un da iawn ac rwy'n gobeithio y bydd yn ennyn mwy o neiniau i ddarllen i blant," meddai yn dilyn y dyfarniad.

Er i anhawster godi gydag arian i hyrwyddo'r fenter dywedodd Valerie ei bod yn benderfynol y bydd y fersiwn Gymraeg ar gael erbyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd, fis Medi.



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý