|
|
Â鶹Éç Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
» | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
CefndirCroeso'r CadeiryddNeges gan Tom T Defis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith
Croeso i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr, 2007
Y mae Gari Sir Gâr - het y dewin Myrddin - yn gymeriad llawen a hudolus, a dyna, gobeithio, fydd eich profiad chi o'ch ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Gâr 2007.
Y mae'r paratoi ar eich cyfer wedi bod yn frwd a llawen. Diolch am bob cefnogaeth. Bu pwyllgorau ar draws y sir hudolus hon yn cynnal pob math o ddigwyddiadau er mwyn gwarantu Eisteddfod lwyddiannus, drwy sicrhau cyfleusterau arbennig ar eich cyfer, yn blant, yn bobl ifanc a chefnogwyr o bob cwr o Gymru. Maes hwylus Yr ydym wedi bod yn ffodus dros ben i gael maes gwych ar gae'r Sioe Unedig, yn Nantyci y tu allan i dref Caerfyrddin, yng nghanol y sir. Bydd y drafnidiaeth yn hwylus a'r cyfleusterau i gyd ar y maes. Cewch yno yn agos i'r pafiliwn fannau parcio, safleoedd carafannau, ystafelloedd rhagbrofion, cornel chwaraeon a hwyl a llawer o bethau eraill ynghyd a bws wennol gyfleus i fynd nôl ac ymlaen i'r dre. Wyneb y croeso Gari Sir Gâr, y cymeriad llawen a hudolus fydd wyneb y croeso i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr, 2007, ond pobl ifanc y sir fydd yn datgan croeso arbennig Shir Gâr gyfan i fynychwyr Gŵyl yr Urdd eleni. Gwefr gweld bwrlwm yr ifanc yn yr holl weithgareddau o gystadlu yn y Cylch a'r Sir, pan fu ambell sesiwn yn croesi hanner nos, y sioeau, am "Lyfr Du, Caerfyrddin," "Dagrau'r Coed" yr ifanc," "O Bren Braf" y plant ynghyd a'r ymarfer ar gyfer yr oedfa fore Sul, sydd wedi gwneud yr holl baratoi a'r ymdrechion codi arian yn bleser ac yn fraint i bawb ohonom. Eisteddfod gyntaf Dyma'r Eisteddfod gyntaf yn y sir ers geni nifer o'r plant a'r bobl ifanc. Mae deunaw mlynedd ers Eisteddfod Cwm Gwendraeth, deuddeg ar hugain ers Eisteddfod Llanelli a deugain mlynedd cywir ers i'r Eisteddfod fod yng nghyffiniau Caerfyrddin. Yr ydym ni'r oedolion wedi cael cyfle mewn llawer dull a modd i fod yn rhan o'r bwrlwm ac wedi elwa'n fawr o brofiadau'r gweithgarwch diwylliannol a chymdeithasol a gwahanol weithiau, wrth geisio sicrhau'r cyllid angenrheidiol i gynnal Eisteddfod lwyddiannus. Y costau Y mae'r costau tua £1.6 miliwn gyda'r Urdd yn sicrhau dros hanner y cyllid a ninnau'n fwy lleol yn y sir, drwy gymorth y Cyngor Sir, nawdd cwmnïau lleol a chenedlaethol ynghyd ag ymdrechion y pwyllgorau lleol a'r pwyllgorau testun yn codi'r gweddill. Braf yw gweld ffrwyth yr ymdrech gyda phwyllgorau yn cyrraedd eu nod ac yn rhagori ar hynny. Gwelodd nifer o'r pwyllgorau testun ffrwyth eu llafur yn barod yng nghystadlu'r eisteddfodau Cylch a Sir. Bydd llawer mwy o ddarluniau yn aros yn y cof na'r hyn a nodir yma. Holl weithgarwch yr Ŵyl Gyhoeddi, Cadeirydd y Pwyllgor Cyhoeddusrwydd a'i focs hufen iâ yn gwerthu'r nwyddau, llawr neuadd y sioe yn Nantyci yn llawn o gynnyrch y cystadlaethau celf a chrefft wrth iddyn nhw gael eu beirniadu, cystadleuwyr brwd y Cylch a'r Sir, yr amrywiol weithgareddau codi arian a'r croeso arbennig ar draws y sir, dosbarthiadau Cymraeg y busnesau, a'r berthynas a'r Cyngor Tre, heb anghofio, ie, yr holl bwyllgorau. Mae'r cyfan wedi bod yn gynhyrfus er y tensiwn weithiau rhwng hyfforddwyr brwd a dyheadau cefnogwyr hael. Daeth Siân Eirian a'r triawd, Irfon, Ifan ac Ian, i fyw yn ein plith gydag aelodau eraill o staff yr Urdd yn ymuno yn ein hymdrechion. Maddeuwch un nodyn personol. Gwefr y gadair Er y teimladau cymysg, yr oedd gweld cadair yr Eisteddfod yn tyfu o'r astell dderw yn rhoi gwefr arbennig i ni fel teulu. Caiff y bardd eistedd ar foncyff y dderwen gyda'r mes yn cynnal y breichiau. Mae Gari Sir Gar wrth law gyda'r llythrennu cynnil ar batrwm ysgrifau'r brenin Hywel Dda. Yr hen dderwen Clywsoch gân am "yr hen dderwen gam" a'r hen goel y byddai'r dref yn boddi pe byddai'r Dderwen yn cwympo. Wrth i'r hen dderwen gael ei chymryd i'r amgueddfa daeth bygythiadau i hen draddodiadau, diwylliant ac iaith ardaloedd amaethyddol a diwydiannol yr hen sir hon fel i bob ardal arall. Wel, y mae yna dderwen ifanc yn tyfu nawr yn nhre Myrddin, gyda blagur ir arni pan ddowch ar eich tro i'r Eisteddfod. Ein gobaith a'n dymuniad yw y byddwch chi'r ymwelwyr, a ninnau yn Shir Gâr, yn teimlo gwefr y blagur newydd ir, wrth inni brofi bwrlwm y cystadlu ac asbri'r gweithgareddau megis y cyngerdd croeso, y sioeau a'r oedfaon. Yn fwy na dim, gobeithio y cewch chi'r plant a'r bobol ifanc brofiad i'w gofio yng nghwmni Gari yn Sir Gâr. Croeso mawr i'r Ŵyl. Tom T Defis Cysylltiadau
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |