America 08: Dewi Llwyd ar daith
Dewi Llwyd ar daith
Mae'r daith o Fangor i Gaerdydd yn un y mae wedi bod yn ei gwneud trwy ei yrfa gyda Â鶹Éç Cymru, ac yntau yn byw ym Mangor ond yn gweithio'n bennaf yn y brifddinas. Ond mewn rhaglen arbennig ar S4C bu Dewi Llwyd yn gwneud taith wahanol iawn o Gaerdydd i Fangor, sef o Cardiff-by-the-Sea yng Nghaliffornia i Fangor, Pennsylvania.
Ar hyd y daith, bydd Dewi yn mynd y tu hwnt i benawdau mawr yr etholiad Americanaidd, at wraidd y materion sydd o wir gonsyrn i drigolion y wlad, a hynny o enau Americanwyr a Chymry sy'n byw yno. Ac roedd hi'n dipyn o daith - 4,000 o filltiroedd mewn tair wythnos.
"Y prif bwnc heb os nac oni bai yw'r sefyllfa ariannol," meddai Dewi Llwyd. "Roedd y sefyllfa honno yn rhywbeth oedd yn gwaethygu tra roedden ni yno. Ac i raddau mae pobol yn lled-feio'r wyth mlynedd ddiwethaf am y sefyllfa yno rwan. Y sefyllfa economaidd sy'n tra-arglwyddiaethu ar yr etholiad, a phawb yn chwilio am y person iawn i'w llywio allan o'r dryswch presennol.
"Yr hyn ddaeth yn amlwg oedd bod yr Americanwyr, wedi digwyddiadau Medi'r 11eg, hyd yn oed yn fwy mewnblyg ac ynysig na'r hyn fuon nhw yn y gorffennol, ac yn bryderus a drwgdybus wrth edrych ar weddill y byd. Ychydig o ddiddordeb sydd yn yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd, o feddwl y dylanwad sydd ganddyn nhw ar y byd hwnnw."
Fe gyfarfu Dewi amrywiaeth fawr o bobl ar y daith. Cyfarfu Hugh Roberts sy'n swyddog diogelwch o Galiffornia ar range danio, ac un o'i brif bryderon o yw'r ffaith ei fod am barhau i gael y rhyddid i gario gwn.
"Mae rhaid i chdi gofio mae o'n rhywbeth sy di cael ei sgwennu yn yconstitution ers y dechrau a da ni yn poeni am y pobl fel y Democrats sy'n trio cymryd y 'rights' yna i ffwrdd."
Yn Dallas, bydd Dewi Llwyd yn cael cyfle i sgwrsio gyda Rhys Morris, sy'n rheolwr yng nghwmni Countrywide, un o gymdeithasau tai mwya'r wlad, gan edrych ar y cwymp yn y farchnad dai a arweiniodd at argyfwng economaidd byd-eang.
Yn Las Vegas mae Dewi yn cyfarfod â Keith Turner, Uwch Gapten yn Llu Awyr America sydd am weld lluoedd America yn aros yn Irac nes bod eu gwaith nhw yno yn dod i ben.
Ond draw yn Wisconsin mae Gwyn Howells, o Borthmadog yn wreiddiol, am weld y milwyr yn dod adref, a hynny ar unwaith. Fe fu farw ei fab, Alun, yn Baghdad ym mis Awst 2007. Mae Gwyn Howells yn cefnogi Obama am ei fod wedi addo dod a'r rhyfel i ben.
"Dwi'm yn credu fod Obama yn barod i fynd i mewn i wlad jyst i fynd i mewn i brofi pwynt . Mae gen i ofn fod McCain ddim yn edrych ar bethau yr un fath a ydw i a lot o bobl eraill yn y wlad ar hyn o bryd."
"Mi wnaeth llawer o'r rhai y gwnaethon ni eu cwrdd wneud argraff fawr - yn arbennig y tad y bu ei fab farw yn Baghdad," meddai Dewi. "Roedd o yn siarad gydag angerdd ac, yn naturiol, roedd o yn hynod feirniadol o'r rhai anfonodd y milwyr i Iraq. A'r cwpwl yn eu nawdegau ym Mhennsylvania. Roedden nhw yn cefnogi McCain, gan ei weld yn ddyn â phrofiad. Er, doedd ganddyn nhw ddim llawer o ffydd mewn gwleidyddion, a dim ffydd o gwbl yn George Bush."
Richard a Bronwen Pritchard yw'r cwpwl rheiny, gŵr a gwraig yn eu nawdegau sy'n byw ym Mhennsylvania a sydd dal yn siarad Cymraeg er nad ydyn nhw erioed wedi byw yng Nghymru. Mi gafodd y ddau eu geni yn America yn blant i Gymry Cymraeg oedd wedi symud o ogledd Cymru.
"Siarad gormod a neud dim byd, dyna nhw, i gyd, pob un," meddai Bronwen Pritchard am y gwleidyddion. "Twn i ddim, waeth gen i pwy geith o ond dwi'n meddwl bod fi'n licio'r hen ddyn yn well. Mae o'n gwbod mwy dwi'n meddwl - gobeithio!"
Darlledwyd y rhaglen hon ar nos Fawrth, Hydref 28 am 21.30. Cynhyrchiad Â鶹Éç Cymru ar S4C
Y Celfyddydau
Cylchgrawn
Archif dros 12 mlynedd o adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm.