Heno
Chwefror 2004
Ryland Teifi - Heno
'Heno' ydy CD cyntaf y canwr jazz/gwerin Ryland Teifi. Mae o wedi creu dipyn o argraff ers glanio ar y sîn llynedd a mae'r CD yn cynnwys 11 trac newydd Gymraeg (gafodd tair eu recordio'n wreiddiol fel Sesiwn i C2).
Daeth y canwr Brychan Llyr (gynt o Jess ond erbyn hyn yn artist unigol) a'r critic Catrin Dafydd, sy'n golygu'r cylchgrawn Glas ac yn aelod o'r grwp Gilespi, i stiwdio C2 i adolygu'r CD yng nghmwni Huw Stephens. Gafodd y CD ymateb anhygoel, a dyma beth oedd gan y ddau i'w ddweud....
Catrin: "Wi'n credu bod e'n wefreiddiol - gymaint o ganeuon ysbrydoledig, gymaint o tunes i chi'n canu dro ar ôl tro, gymaint o offerynwyr sy'n glynu e gyd gyda'i gilydd.... Mae'r cynhyrchu'n wych, mae'n gyhyrog, a fi methu stopo gwrano arno fe - mae'n wych!"
Brychan: "Mae'n rhaid i fi weud we'n i ddim yn disgwyl lico fe gymaint. Dwi 'di cwrdd a Ryland droeon - o'n i'n gwybod bod e'n whare offerynne ond doeddwn i ddim yn sylweddoli bod e'n canu a canu mor dda a ysgrifennu caneuon gymaint. Mae e'n gerddoriaeth dwi gallu teimlo'n agos ato - mae'r gerddoriaeth yn cyrraedd ata i yn rhwydd."
Catrin: "Mae un gân, 'Si Hei', lle mae e'n canu Si Hei Lwli i'w blentyn a mae'n gwneud i ti bron â crio mae e mor sensitif. Mae nhw hefyd yn tynnu nôl lle mae angen, mae nhw'n gwybod weithie bod un offeryn yn ddigon i gario fe - mae'r piano yn gelfydd, mae pibau trwy rhai caneuon yn hyfryd hefyd, mae e wir yn CD hyfryd."
Brychan: "Mae'r alawon yn cael amser i anadlu, i ddatblygu a mae'r geirie'n creu delwedde sydd yn mynd gyda'r alawon yne a sydd yn hyfryd iawn. Mae'i lais e'n swno'n aeddfed iawn hefyd... Mae 'na un gân sydd arno fe bydde ni falle'n ame bod e'n gweddu gyda'r gweddill cystal - y gân ffynci - a dyw llais Ryland ddim cweit ddigon punchy ar hwnna i dynnu fe off. Ond, iesgeth, mae fe'n albym cyntaf sy'n swno fel sa fe di bod wrthi erioed, mae'n swno fel sa fe'n hen gliper."
Catrin: "Sai'n credu bod ni wedi cael rhywbeth cweit o'r safon hyn ers amser hir iawn o ran canwr unigol - mae'n rhaid i fi fod yn onest."
Mae'r CD bellach yn y siopau ar label newydd Kissan o Gaerdydd - label sydd hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth glasurol gan Catrin Finch (telynores y Tywysod Siarl!).
Marciau Ryland Teifi - Heno
Catrin: 9.5/10
Brychan: 8.5/10