Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Â鶹Éç Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Eryr, Gilepsi, Ashokan
Caerdydd, Medi 2004
Lowri Johnston


Lle a phryd
Clwb Ifor Bach, Caerdydd. Medi 18fed, 2004

Y bandiau
Gilepsi, Eryr ac Ashokan

Awyrgylch
Eithaf tipyn yn y gynulleidfa. Dyma gig sydd wedi cael cryn dipyn o sylw a hype yn yr wythnosau yn arwain fyny ato, ond dyw'r lle ddim yn orlawn er hynny. Dydy hyn ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i berfformiadau'r bandiau na'r awyrgylch, gyda'r gynulleidfa gyfan yn ymateb yn dda iawn i bob un o'r bandiau, er bod y dawnsio ddim wir yn dechrau o ddifri nes i Ashokan ymddangos!

Trac y noson
'Y Final Countdown' cyn i Eryr ymddangos ar y llwyfan!

Disgrifiwch y perfformiadau
Gilepsi sy'n agor y noson - band benywaidd o'r Gorllewin gwyllt. Mae'r band yn bendant wedi datblygu ers i mi eu gweld nhw yng Nghaerfyrddin flwyddyn yn union yn ôl, a dwi'n cael fy siomi ar yr ochr orau heno gyda'u perfformiad.

Nid yw'n berfformiad egnïol iawn, ond nid dyna pwynt y band na steil y gerddoriaeth. Mae'r gerddoriaeth yn neis, y lleisau a'r offerynau'n hyfryd, ac ar y cyfan, set lyfli a chilled. Dim at ddant pawb efallai, ond ffordd grêt o agor y noson. Mae'n debyg y bydd Gilepsi yn mynd mewn i'r stiwdio cyn bo hir i recordio albwm, felly gwyliwch allan amdani!

Yn ail ar y llwyfan mae Eryr o Benllyn. Dyma fand sydd wedi bod yn gigio ers tipyn, ond sydd wedi dod i fwy o amlygrywdd dros y flwyddyn ddiwetha', gyda mwy o bobl yn dechrau cymryd sylw. Fe fwynheais eu set yn fawr iawn, er mod i'n teimlo ar adegau prin iawn, eu bod nhw'n ei cholli braidd. Ond, ar y cyfan, mae'n wych a dwi wir yn gobeithio y bydd y band yn recordio rhywbeth yn fuan achos yn bendant mae ganddynt ddigon o ganeuon gwerth chweil.

Fy ffefryn i o bosib yw 'Uniaith Unllais', ond mae'r set gyfan yn llawn caneuon gafaelgar - gan gynnwys y gân sy'n gorffen y set, 'Gwennu ar Dduw'. Dyma gân wych, ac maen nhw'n gorffen y set gyda bang.

Ashokan sy'n cloi'r noson - unig fand lleol y noson. Ers rhyddhau eu albwm cyntaf, 'Diolch am ddal y gannwyll', mae Ashokan wedi mynd ar drywydd trymach, ac yn rhoi blas i ni heno o'r caneuon fydd ar yr albwm nesaf fydd allan cyn bo hir. Mae'r caneuon newydd yn swnio'n dynn ac yn drwm, gan ddangos sut mae Ashokan yn datblygu ac arbofi. Er gwaethaf absenoldeb Aled (gitâr), mae Ashokan yn wych heno - es, fase ni ddim yn dweud mai dyma eu perfformiad gorau erioed - ond gyda un gitâr yn gwneud gwaith dau, does dim rhyfedd. Maent yn llwyddo i ddiddanu'r gynulleidfa, ac yn plesio rhai (fi!) wrth chwarae 'Y boi sydd methu ffonio nôl'! Felly, ar y cyfan, noson wych. Rhwng y bandiau roedd Dai Dockrad ac Ian Cottrell yn ein diddanu, ac yn parhau i wneud hynny tan yr oriau mân. Joio!



Uchafbwynt y noson
Doedd dim un peth pendant yn uchafbwynt, felly bydd rhaid i mi ddweud popeth!

Y peth gwaethaf am y noson
Ei bod hi'n gorfod dod i ben! (Bwww!)

Achlysur Roc a Rôl
Math o Eryr wedi gwisgo fyny fel Alice Cooper (colur gwych gyda llaw!)

Beth sy'n aros yn y cof?
Math ac Aled (Eryr) yn cusannu ar y llwyfan. Ffeindiwch ystafell ie bois?!

Talent gorau'r noson
Oedd pob band yn wych yn eu ffyrdd ei hunan - roedd gan pob un steil wahanol o gerddoriaeth.

Marciau allan o ddeg
9 1/2

Un gair am y gig
Blasus

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý