|
The Keys, Ashokan, Mozz
Roc y Castell 2004 Gan Lowri Johnston
Lle a phryd
Aberyswyth, 10ed Gorffennaf 2004
Y bandiau
Drive By Suicide, Swiss Tony, Three Minute Warning, Mozz, Ashokan, Smokestack, The Keys
Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Yn ei ail flwyddyn, mae Castell Rock wedi datblygu i fod yn un o wyliau mawr yr haf yng Nghymru. Mae ei leoliad gwych yng nghastell Aberystwyth, gyda golygfa ffantastig dros y môr a'r bae yn ddigon i ddenu unrhyw un - ond pan mae diwrnod cyfan o fandiau yn chwarae hefyd a'r cyfan am ddim? Anodd gwrthod y cyfle...
Band cyntaf y diwrnod oedd Drive By Suicide. Fe fwynheais eu set - dim byd newydd a gwreiddiol, ond dim byd ofnadwy chwaith. O leiaf bod y gerddoriaeth yn well na enw'r band...! Band lleol oedd i ddilyn - Swiss Tony - sy'n amlwg yn reit boblogaidd yn yr ardal. Caneuon reit catchy ac addasiad diddorol o gân Rachel Stevens - LA ex, gyda'r gynulleidfa i gyd yn cyd-ganu yn dawel bach!
Yn drydydd oedd Three Minute Warning o Fachynlleth. Band eithaf trwm - offerynwyr da ond y canu ddim cweit yn taro deuddeg ar adegau. Cafwyd set da iawn gan Mozz i ddilyn, gan gynnwys y ffefrynnau Edrych ar y Merched ac Anturiaethau ysgol Sul. Roedd eu fersiwn nhw o Black Magic Woman hefyd yn wych, a'r band yn rocio yn ôl eu harfer!
I ddilyn oedd Ashokan, yn wreiddiol o Bontypridd. Dyma fand â llawer (iawn, iawn) o egni, ac yn amlwg yn mwynhau eu hunan ar lwyfan. Yn wir, dwi ddim yn meddwl bod Marc (bass) yn aros yn llonydd am fwy na cwpwl o eiliadau yn ystod y perfformiad - ac yn rhedeg o gwmpas y llwyfan, neidio ar ben yr amps, ac allan o gwmpas y gynulleidfa (nai ddim sôn am y pryd gwympodd e dros y set ddrymiau...!). Chwaraewyd cwpwl o ganeuon newydd - eithaf trwm, a oedd yn swnio'n reit addawol. Yr unig beth negyddol am y set oedd absenoldeb y gân "Y boi sydd methu ffonio nôl", er i sawl un o'r gynulleidfa weiddi amdano!
Ail fand Sam Mozz, trefnwr y diwrnod, chwaraeodd nesaf, sef y Poppies. Maent wedi cael tipyn o sylw yn ddiweddar, ac mae eu caneuon yn eithaf da, ond ddim mor 'roci' â Mozz (sori, mae'n anodd peidio cymharu'r ddau!).
Roedd rhyw dinc-Rage-Against-The-Machine-aidd i'r band nesaf, sef Jape. Doeddwn i ddim yn rhy hoff o'r band yma - ond, fy marn personol yw hwnna. Dwi'n meddwl mod i yn y lleiafrif a dweud y gwir, achos roedd sawl un yn y gynulleidfa i'w gweld wedi eu plesio hefo'r band yma!
Dwi'n meddwl y peth wnaeth fy nharo i mwyaf am y band nesaf - Smokestack - oedd cymaint o bobl oedd wedi dod i'w gweld nhw yn benodol. Roedd y lle yn orlawn erbyn iddyn nhw ddod arno, a pawb yn edrych yn eiddgar at y llwyfan. Dyma fand henaf y diwrnod yn bendant - band o Aberystwyth a ffurfiwyd dros ugain mlynedd yn ôl. Chwaraewyd set o glasuron o'r 60au a'r 70au - a ysgogodd sawl un yn y gynulleidfa i ddawnsio, ac roedd yn amlwg bod y gynulleidfa i gyd yn mwynhau - o'r plant i'r arddegwyr i'r to hyn.
Cafwyd set newydd gan Kentucky AFC - ac ar yr un pryd fe ddechreuodd hi fwrw glaw yn drwm iawn. Trueni mawr achos aeth sawl un i chwilio am gysgod - dim ond y ffans-go-iawn arhosodd allan yn y glaw i wrando ac i ddawnsio! Fe gollodd y band hi ar adegau - ac roedd rhai caneuon yn eithaf llac. Dim un o berfformiadau gorau'r band dwi wedi ei weld, ond roedd y rhan helaeth o'r gynulleidfa yn poeni mwy am wlychu eu gwallt na'r gerddoriaeth...
Band reit wahanol i ddilyn - unig band y diwrnod i gynnwys merched. O Aberystwyth, mae'r Hot Puppies wedi creu tipyn o enw i'w hunan, ac roedd eu set yn dda iawn. Dyma'r tro cyntaf i mi weld nhw'n chwarae'n fyw, ac fe gefais fy mhlesio. Mae llais y prif leisydd yn swynol, ac roedd yn ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r diwrnod.
Ac i orffen, The Keys. Murry the Hump gynt, mae gan y band lwyth o ganeuon catchy iawn, ac yn bendant dyma'r band sy'n ceisio mwyaf - ac yn bwysicach - yn llwyddo, i gyfathrebu gyda'r gynulleidfa. Mae eu cais i gael gwared o'r baryn o flaen y llwyfan yn ysgogi i bawb wthio ymlaen, ac mae'r gynulleidfa yn mynd yn wyllt! Mae cân olaf y diwrnod - Love your Sons and Daughters yn wych - diwedd grêt i ddiwrnod ffantastig.
Sylwadau ychwanegol?
Llongyfarchiadau mawr i'r trefnwyr am greu gŵyl elusennol mor lwyddiannus, a gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf!
|
|