Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Â鶹Éç Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Jakokoyak, Cate Timothy
Aberystwyth, Mai 2004
Gruff Prys


Lle a phryd
Clwb Pêl-droed Aberystwyth, Aberystwyth, Mai 14fed.

Y bandiau
Sweet Baboo, Cate Timothy, Jakokoyak a Ian Cottrell, Bethan Elfyn a Huw Stephens yn Djio.

Awyrgylch
Syfrdanol o feddwl fod y Ffwti yn dwll du di-awyrgylch fel arfer. Mae'n syndod be mae mymryn o Feng Shue gyda' byrddau a chadeiriau'n gallu ei gyflawni. Digon o gynulleidfa, er nad oedd yna lawer o fyfyrwyr Aber yn bresennol (rhy brysur yn smalio adolygu i ddod, debyg).

Trac y noson
'I'm a Loser baby, I come from Llangefni gan Jakokoyak (ac yn ddyledus iawn i Beck). Trac y noson am ei fod yn (rhannol) wir. Pa ran? Dyfalwch chi!

Disgrifiwch y perfformiadau
Sweet Baboo: Ei ganeuon direidus o ddrwg yn cyferbynnu gyda'r ddelwedd hogyn-bach-diniwed-mewn-tanc-top. Nid bod unrhywun mewn tanc-top yn ddiniwed. Deuawd o gân Westlife gyda Cate Timothy yn brawf o hynny. Athrylith gwyrdroedig.

Cate Timothy: Treuliodd ormod o amser yn ein gwahanu ni oddi wrth soniarus sain ei llais gan nad ydi hi wedi dysgu tiwnio ei gitâr ei hunan eto. Disgwyl pethau mawr gan hon (unwaith iddi brynu fforc diwnio).

Jakokyak: Set arbrofol un-dyn-â'i-gyfrifiadur; lwyddodd o ddim i blesio pawb, ond roedd athrylith yn ei set. Efallai fod angen presenoldeb y band llawn i ddal diddordeb y gynulleidfa trwy'r darnau hiraf?

Uchafbwynt y noson
Gweld pobl yn cael amser da mewn gig yn y Ffwti!

Y peth gwaethaf am y noson
Diffyg myfyrwyr.

Achlysur Roc a Rôl
Aelodau Ashokan yn darparu bathodynnau metel-trwmaidd yr olwg gyda enw eu band arnyn nhw. Nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys staff Radio'r Â鶹Éç sydd yn rhy erchyll i'w printio.

Beth sy'n aros yn y cof?
Ar noson feddw fel hon? Dim llawer. Llunwyd yr adolygiadau yma o dystiolaeth ffotograffaidd a'r nodiadau o'n i wedi sgriblo hyd fy mreichiau.

Talent gorau'r noson
Cate Timothy. Mae'n well gen i genod.

Marciau allan o ddeg
Wyth.

Un gair am y gig
Taaaacsi!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Hufen Haul Ffactor 15!

Lincs gwefan
Newyddion Jakokoyak


Mwy o gigs ar safle'r canolbarth



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý