Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Swyddi
Ìý


Ble mae dod o hyd i swyddi gwag

Oni bai dy fod ti’n lwcus iawn, does neb yn mynd i ddod i gnocio ar y drws yn cynnig gwaith i ti! Cyn y gelli di syfrdanu darpar gyflogwyr gyda dy CV a dy sgiliau cyfweliad anhygoel, rhaid i ti ganfod ble mae’r swyddi gwag. Mae pob mathau o ffyrdd o chwilio am swyddi. Mae rhai’n ‘ffurfiol’, fel mynd i’r Ganolfan Gwaith, ac eraill yn ‘anffurfiol’, fel gofyn i dy ffrindiau gadw golwg allan ar dy ran. Po fwyaf o ddulliau y byddi di’n rhoi cynnig arnynt, mwyaf oll yw’r gobaith o lwyddo.

Canolfannau Gyrfaoedd

Ers Ebrill 2001 mae'r Cwmniau Gyrfaeoedd wedi cyfuno i ffurfio Gyrfaoedd Cymru. Er hynny mae pob cwmni'n dal i gynnig gwasanaethau i ardal ddaearyddol arbenning. Mae Gyrfaoedb oed. Mae hyn yn golygu p'un ai os ydych chi mewn addysg, mewn hyfforddiant, mewn swydd; ifanc neu heb fod mor ifanc fe allwch gael cymorth a chyngor. Golyga hyn ddod o hyd i swyddi, prentisiaethau a hyfforddiant arrall yn y gweithle; neu gael cyngor ar gyrsiau, pynciau a'r cymwysterau rydych eu hangen, gwaith yn ystod y gwyliau, neu ble i dreulio'ch blwyddyn pontio. Mae swyddi gwag lleol a chenedlaethol yn cael eu hysbysebu ac mae staff yn cael eu hyfforddi i helpu a chynghori pobl ynglyn a phob agwedd o chwilio am waith.

Canolfannau Gwaith

Asiantaethau cyflogaeth sy’n cael eu rhedeg gan y llywodraeth. Gall unrhyw un ddefnyddio Canolfannau Gwaith, does dim rhaid bod yn ddi-waith nac yn hawlio budd-daliadau. Yn ogystal â swyddi gwag, gallant roi cyngor ar gyfleoedd hyfforddiant i bobl ddi-waith dros 18 oed.

Asiantaethau Cyflogaeth

Busnesau preifat sy’n codi ffi ar gyflogwyr am ddod o hyd i bobl i lenwi eu swyddi. Yn aml maen’ nhw’n arbenigo mewn gwaith dros dro neu waith achlysurol neu mewn mathau arbennig o waith, fel gwaith swyddfa neu arlwyo. Y newyddion da yw fod eu gwasanaethau nhw yn rhad ac am ddim i’r rhai sy’n ceisio gwaith. Mae cyfeiriadau i’w gweld yn y Yellow Pages.

Papurau newydd

Fel arfer mae papurau lleol yn cynnwys hysbysebion swyddi ar ddiwrnod penodol o’r wythnos. Os wyt ti’n berson ifanc edrycha am eiriau fel ‘rhywun sy’n ymadael â’r ysgol’, ‘hyfforddai’, ‘prentis’, ‘dim angen profiad’ neu ‘profiad ddim yn hanfodol’. Ar gyfer pobl hyn, fwy profiadol mae’r hysbysebion yn y papurau cenedlaethol yn bennaf.

Cylchgronau a phapurau masnachol

Os wyt ti wedi dy hyfforddi, neu fod gen ti sgiliau neu brofiad mewn math arbennig o waith, mae papurau masnachol, fel ‘Caterer and Hotelkeeper’, yn ffynonellau defnyddiol lle ceir swyddi o bob rhan o’r wlad. Efallai y byddan nhw hefyd yn cynnwys hysbysebion am weithwyr dan hyfforddiant.

Hysbysfyrddau a ffenestri siopau

Yn aml mae hysbysfyrddau ‘gyrfaoedd’ ysgolion neu golegau yn hysbysebu swyddi felly mae’n werth bwrw golwg arnyn nhw’n rheolaidd. Efallai y bydd gan siopau mawr fel archfarchnadoedd fyrddau i hysbysebu swyddi, ac mae rhai siopau, caffis a siopau trin gwallt â byrddau yn hysbysebu swyddi yn y ffenest.

Ffrindiau a Theulu

Mae’n syndod gymaint o swyddi sy’n cael eu llenwi drwy rwydweithio anffurfiol. Os wyt ti’n chwilio am waith, gwna’n siwr fod dy ffrindiau a dy deulu yn gwybod hynny fel y gallan nhw gadw’u llygaid ar agor i ti.

Profiad gwaith a swyddi rhan-amser

Weithiau, mae lleoliadau gwaith a swyddi rhan-amser yn arwain at gynigion o waith parhaol. Os oes gen ti ddiddordeb, gwna’n siwr dy fod ti’n gadael i’r bobl iawn wybod. Y gwaetha a all ddigwydd yw eu bod nhw’n dweud na! Hyd yn oed os na allan nhw helpu ar hyn o bryd, efallai y bydd rhywbeth ar gael yn ddiweddarach ac y gallen nhw roi cyngor i ti ar sut i wella dy obeithion o lwyddo.

Ceisiadau ar hap

Mae yna lawer o swyddi nad ydyn nhw byth yn cael eu hysbysebu. Gelli fynd ati i sgrifennu llythyrau ar hap at gyflogwyr, yn y gobaith fod ganddyn nhw swydd wag neu eu bod nhw’n bwriadu recriwtio yn y dyfodol agos. Bydd angen i ti ganfod pa gwmnïau allai gynnig y math o waith rwyt ti’n chwilio amdano, fel y gelli di dargedu dy lythyrau. Efallai y gallai dy Ganolfan Gyrfaoedd neu Ganolfan Gwaith leol helpu.

Y Rhyngrwyd

Mae safleoedd gwe sy’n cynnwys swyddi gweigion yn un o’r meysydd ar y Rhyngrwyd sy’n tyfu gyflymaf. Mae rhai yn gadael i ti ddangos dy CV i ddarpar gyflogwyr. Mae’r rhan fwyaf o hysbysebion ar gyfer ymgeiswyr profiadol neu raddedigion, yn hytrach na’r rhai sy’n ymadael â’r ysgol. Efallai y bydd gan dy Ganolfan Gyrfaoedd leol ei safle gwe ei hun sy’n hysbysebu swyddi ar gyfer pobl ifanc.

TIP TANBAID!

Darganfydda ble fydd Swyddi yng Nghymru'r Dyfodol gyda'n rhagolygon pum mlynedd.

Ìý

Lincs

Hefyd...
Ffurflenni cais
CVs
Swyddi yng Nghymru'r dyfodol

Cam nesa...
Sgiliau ar gyfer gwaith
Hyfforddiant mewn gwaith


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý