Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Swyddi
Ìý


Enghraifft 2 - CV Proffil Personol - Person ifanc sy'n ceisio am swydd

CURRICULUM VITAE
Enw: Rhys Powell
Cyfeiriad: 16 Lloyd George Crescent, Llantrisant, Morgannwg LL4 8HL
Rhif ffôn: 01764 864353
E-bost: rpowell@surfnet.com
Dyddiad geni: 12 Chwefror 1979
Proffil Personol
  • Rydw i’n gynorthwy-ydd gwerthu ifanc ac egnïol gyda dwy flynedd o brofiad mewn siop fawr sy’n gwerthu cyfrifiaduron.
  • Rydw i’n gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau gofalu-am-gwsmeriaid cryf a record werthu lwyddiannus. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydw i wedi ennill gwobr ‘cynorthwy-ydd gwerthu’r mis’ y rhanbarth ddwy waith am ragori ar y targedau gwerthu ac am gael ymateb positif yn ôl oddi wrth gwsmeriaid.
  • Mae gen i wybodaeth ragorol am y meddalwedd adloniant sydd ar gael ar hyn o bryd, yn enwedig gemau cyfrifiadurol.
  • Am y chwe mis diwethaf rydw i wedi bod yn arweinydd tîm dros dro yn yr adran feddalwedd gemau cyfrifiadurol, yn gyfrifol am drefnu a goruchwylio gwaith dau aelod staff rhan-amser ac un hyfforddai. Yn ystod y cyfnod hwn mae gwerthiant yr adran wedi codi ddeg ar hugain y cant.
Cymwysterau
  • NVQ 3 mewn Adwerthu
  • GNVQ Uwch mewn Technoleg Gwybodaeth (Pasio)
  • TGAU mewn Saesneg (C), mathemateg (C), gwyddoniaeth (C), astudiaethau cyfrifiadur (B), Ffrangeg (D) a hanes (D)
Addysg
  • Coleg Addysg Bellach Dwyrain Morgannwg 1995 - 1997
  • Ysgol Gyfun Llantrisant 1990 –1995
Cyflogaeth a Phrofiad Gwaith

Medi 1997 tan nawr: Modem World, Canolfan Siopa Llantrisant

  • y flwyddyn gyntaf fel hyfforddai gyda dau fis o brofiad yr un yn yr adrannau gwerthu caledwedd, gwerthu meddalwedd, cefnogaeth dechnegol, gwasanaethu cwsmeriaid a chyfrifon cwsmeriaid
  • yr ail flwyddyn fel cynorthwy-ydd gwerthu yn yr adran gwerthu meddalwedd
  • y chwe mis diwethaf fel arweinydd tîm dros dro yn yr adran gemau cyfrifiadurol

Tachwedd 1995 tan Awst 1997: FW Woolworth’s, Stryd Fawr, Llantrisant
Cynorthwy-ydd gwerthu rhan-amser ar y cownter cerddoriaeth.

Ionawr 1997: PC Electronics, Stad Ddiwydiannol Llantrisant.
Pythefnos o brofiad gwaith yn yr adran rheoli ansawdd.

Diddordebau Eraill
  • Pêl-droed Americanaidd
  • Dringo creigiau
  • Chwarae’r drymiau mewn band
Canolwyr

Gellir cael enwau a chyfeiriadau dau ganolwr drwy ofyn.

Ìý
Ìý

top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý