Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ìý
Tom Beard

Cwrs hyfforddi i raddedigion

Oed: 23

Coleg neu Brifysgol:
Coleg yr Iesu, Rhydychen.
Mi wnes i astudio ar gyfer BA mewn Daearyddiaeth. Mi wnes i'r cwrs oherwydd 'mod i wastad wedi ymddiddori mewn materion 'real' fel astudiaethau datblygu yn Affrica a'r dwyrain Canol, ac mewn pynciau tramor ac egsotig eraill.

Swydd bresennol:
Hyfforddiant i raddedigion, cynhyrchu rhaglenni, Â鶹Éç Cymru. Fy nod yw bod yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr rhaglenni teledu ffeithiol sy'n ymwneud â theithio neu antur.

Mi wnes i weld yr hysbyseb ac roedd y cynllun yn edrych yn ddiddorol, felly mi wnes i gwblhau ffurflen gais. Mi ges i ddau gyfweliad ac mi fues i ar ddiwrnod asesu cyn cael fy mhenodi. Roedd y cyfweliadau'n ddidrafferth, ond roedd y diwrnod asesu yn canolbwyntio ar waith tîm a datrys problemau. Mi ges i un ysgytwad yn y cyfweliad olaf pan wnes i sylweddoli nad oeddwn i'n gwybod digon am y diwydiant. Roedd yna tua 400 o raddedigion yn trio am 3 lle, felly roedd yna gryn bwysau.

Sut brofiad yw e:
Dwi ar 4 lleoliad sy'n para 3 mis yr un yn Â鶹Éç Cymru. Hyd yma, dwi wedi gweithio ar Â鶹Éç Choice, oedd yn wych. Roedd y tîm yn fach ac roedd digon i'w wneud, ac mi ges i gyfle i gael llawer o brofiad ymarferol ar raglen o'r enw 'The Wrap'. Roedd fy ail leoliad i gyda Â鶹Éç Ar-lein, lle dwi wedi bod yn gweithio ar ddatblygu tair gwefan newydd, dwy ar gerddoriaeth a'r llall ar gyfer pobl ifanc.

Y peth gorau:
Y peth gorau yw eich bod chi'n cael gweithio ar ystod o raglenni, gan ddysgu sut maen nhw i gyd yn gweithio. Wrth edrych yn ôl, dwi'n sylweddoli cyn lleied oeddwn i'n ei wybod am sut mae'r cyfryngau'n gweithio. Mae hefyd wedi bod yn braf cael cyfrannu at yr hyn sy'n mynd ar yr awyr, a gweld fy enw ar ddiwedd y rhaglenni!

Y peth gwaethaf:
Dim digon o wybodaeth am berthynas pawb o fewn y cyfryngau, a'r strwythur yma, sy'n golygu weithiau nad ydw i'n siwr iawn pwy sy'n gwneud pa waith!

Cyngor:
Nid y radd rydych chi'n ei hennill sy'n bwysig, ond y sgiliau gewch chi yn ei sgîl. Mae hefyd yn braf medru siarad am bethau eraill rydych chi wedi'u gwneud, fel bod pobl yn medru gweld bod gennych chi fywyd y tu hwnt i'r brifysgol. Yn fy nghyfweliad, mi wnes i siarad llawer am fy nheithiau i Nepal, India a Dwyrain Affrica. Dwi hefyd yn hwylio, ac yn trefnu nosweithiau mewn clybiau.

Er bod cael profiad yn beth da, mae'n llawn mor bwysig i chi feddwl am syniadau sydd mor uchelgeisiol â phosibl, a does dim raid iddyn nhw bob amser ymwneud â'ch maes gwaith. Defnyddiwch eich profiadau eich hun i gyflwyno syniadau, a byddwch yn wreiddiol.

Ìý

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
³§Ãª°ù
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Addysg Uwch
Swyddi



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý