Cymryd Blwyddyn Allan
Oed:
19
Coleg
neu Brifysgol: Dwi'n
astudio Twristiaeth ac Ieithoedd (Sbaeneg) ym
Mhrifysgol Cymru, Bangor
Pam
cymryd blwyddyn allan:
Roeddwn i angen seibiant o astudio felly mi
wnes i benderfynu cymryd blwyddyn allan a mynd
i Dde America. Mi wnes i dreulio 3 wythnos yn
dysgu Sbaeneg yn Ecwador, mis o waith cadwraeth
gwirfoddol yng nghoedwig y cwmwl yno, a 2 fis
yn teithio.
Profiad
da:
Dwi wedi dysgu bod yn annibynnol, ond doedd
bod yn gwbl gyfrifol am fy arian fy hun ddim
yn hawdd. Mae teithio o gwmpas gyda chriw bach
o bobl mewn gwlad ddieithr heb wybod beth fyddwch
chi'n ei wneud nesaf yn gyffrous iawn.
Amser
gorau:
Deffro ar ôl treulio noson mewn pabell, ac agor
y babell i weld y wawr yn torri dros goedwig
law yr Amazon.
Amser
gwaethaf:
Rhywun yn fy mygio. Mae'n gyffredin iawn yn
Ne America, yn enwedig yn y dinasoedd mawrion
- mae'n rhaid i chi fod yn hynod ofalus.
O...
a'r amser pan roedd pob un ohonon ni'n dioddef
o wenwyn bwyd - a dim digon o dai bach!
Cyngor:
Meddyliwch yn ofalus am yr hyn rydych chi eisiau
ei wneud yn eich blwyddyn allan ac ym mha wlad.
Porwch yn y llyfrau pwrpasol, a gwnewch gais
yn fuan iawn fel y cewch chi le yn y wlad rydych
CHI eisiau ymweld â hi. Cofiwch gael prawf meddygol
llawn a'r holl frechiadau mewn da bryd. Holwch
os ydych chi'n mynd i ranbarth lle mae malaria'n
broblem, a chofiwch fynd â bocs cymorth cyntaf
safonol gyda chi.
|