Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ìý
Jennifer Lee

Astudio Rhaglen Hyfforddiant Genedlaethol

Oed: 19

Coleg:
Dwi wedi bod yn gwneud Hyfforddiant Cenedlaethol mewn Gofal Cwsmeriaid yng Ngholeg Ystrad Mynach a dwi bellach yn gwneud NVQ Lefel 3 mewn Gofal Cwsmeriaid.

Gwaith:
Dwi'n dderbynwraig mewn cwmni sy'n darparu offer a gwasanaethau i bobl anabl. Fe wnes i ofyn i'r rheolwyr a fyddwn i'n cael mynd ar gwrs i ddysgu mwy am y gwaith roeddwn i'n ei wneud. Roedd un o'r peirianwyr eisoes ar gwrs yng Ngholeg Ystrad Mynach, ac roeddwn i'n teimlo'n awyddus i ddysgu mwy hefyd.

Camu ymlaen:
Fe wnes i ofyn pa gyrsiau oedd ar gael ar ôl NVQ Lefel 2. Cefais wybod am yr holl opsiynau gwahanol, ond roeddwn i'n teimlo y byddai'n fwy manteisiol i'r cwmni pe bawn i'n gorffen NVQ Lefel 3. Fe wnes i benderfynu mynd ymlaen i wneud NVQ Lefel 3, oherwydd i mi ddysgu llawer ar y cwrs gwreiddiol. Roeddwn i eisiau dysgu mwy am adran arall o waith y cwmni. Mae'r cwrs newydd wedi rhoi gwell dealltwriaeth i fi o ystod ehangach o bwyntiau.

Sut:
Mae pob cwrs yn para blwyddyn, a dydw i ddim yn treulio dyddiau allan. Mae tiwtor yn galw un prynhawn yr wythnos i drafod pethau'n breifat. Mae hi hefyd yn fy asesu tra dwi'n gweithio. Mae'n ffordd wych o weithio gan mod i'n cael aros wrth fy nesg, ac yn dysgu wrth fynd ymlaen, hynny yw, dwi'n dysgu sut i gyfathrebu'n well â chwsmeriaid tra dwi yno. Dwi wedi cael ffolder sy'n cynnwys y meysydd mae'n rhaid i mi ymdrin â nhw. Mae'r penaethiaid hefyd yn cadw cofnod o sut maen nhw'n meddwl mae pethau'n mynd, a dwi'n cael cyfle i roi sylwadau ar sut dwi'n teimlo wrth i ni fynd yn ein blaenau.

Y cwrs:
Mae'r cwrs wedi bod yn un da i mi, gan ei fod yn cynnwys meysydd nad oeddwn i wedi eu hystyried fel rhai ym maes Gofal Cwsmeriaid. Dwi bellach yn gwybod mwy am bynciau fel rhoi sylw i gwsmeriaid mewn ystafell arddangos, sut i gyfathrebu â nhw, a sut i ddeall eu hanghenion. Ar ddiwedd y flwyddyn, dwi'n gobeithio symud ymlaen i astudio NVQ lefelau 2 a 3 mewn pwnc arall, Gwaith Derbynfa Gwesty.

Cyngor:
Fe fyddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n ystyried gwneud y cwrs yma ei fod e'n werth yr amser a'r ymdrech i fynd i fyny lefel, gan ei fod yn tynnu mwy allan ohonoch chi ac yn eich gwneud chi'n well person, ac yn weithiwr mwy cyflawn.

Ìý

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
³§Ãª°ù
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Hyfforddiant mewn Gwaith
Ceiswyr Sgiliau



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý