麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
N么l i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

麻豆社 Homepage
Addysg
Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eryn Cookson

Astudio mewn prifysgol ddinesig

Oed: 18

Coleg neu Brifysgol:
Ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe yn astudio Saesneg a Daearyddiaeth. Fy nod yw mynd yn Athrawes Ysgol Gynradd.

Symud i'r ddinas:
Roedd yn dipyn o sioc! Y pethau bach oedd yn taro rhywun yn wahanol. Roeddwn i'n medru mynd allan i lefydd gwahanol fwy nag unwaith yr wythnos, ac mae'r prisiau yma'n dipyn rhatach nag yng Nghernyw. Mae Cernyw hefyd yn gallu bod yn lle eithaf cul, tra bod 'na bobl yma o bob math o wahanol gefndiroedd.

Pam Abertawe:
Mi oeddwn i eisiau gadael Cernyw am ei fod yn fach ac yn fy mygu - roeddwn i eisiau dianc a gweld mwy o'r wlad. Mi wnes i ystyried mynd i Brifysgol Brunel, ond roedd gormod o goncrid yno. Roedd Prifysgol Aberystwyth ormod fel arall - roedd hi'n rhy dawel yno. Ond roedd Abertawe'n berffaith. Y bywyd nos yw'r peth gorau. Dim ond un clwb oedd yn Redruth - mae digon o ddewis yma. Gan fod cymaint o yfed dan oed yng Nghernyw, mae rhywun wastad yn gofyn i chi am brawf o'ch oed - dydy hynny ddim yn digwydd yma.

Pwyntiau negyddol:
Does dim troseddu yn fy rhan i o Gernyw, ond mae llawer o droseddu yn Abertawe. Gartref, mi fydda' i'n teimlo'n ddiogel yn cerdded i bob man, ond fydda' i ddim yn cerdded ar hyd llwybr unig yn Abertawe ar fy mhen fy hun, hyd yn oed yng ngolau dydd.

Pwyntiau positif:
Mae'n wych byw gyda chymaint o bobl. Dwi'n byw yn y pentref myfyrwyr, felly mae'n wych crwydro o gwmpas a chyfarfod ffrindiau. Gartref, roedden ni'n byw ar fferm, filltiroedd i ffwrdd oddi wrth fy ffrindiau.

Mae 'na lawer mwy o ryddid yma. Gartref, gan fod pawb yn nabod ei gilydd, os ydych chi'n gwneud rhywbeth o'i le mae pawb yn gwybod. Yma, does fawr neb yn eich nabod chi, felly mi allwch chi wneud beth fynnoch chi.

Symud i Gymru:
Does dim llawer yn wahanol yma. Dydy'r iaith ddim yn broblem, a'r unig wahaniaeth amlwg yw'r arwyddion ffyrdd dwyieithog. Mae'n debyg y bydda' i'n dychwelyd i Gernyw ar 么l graddio, ond am y tro, mae'n wych cael byw yma.

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
厂锚谤
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Addysg Uwch
Dewis prifysgol



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy