Mae hi'n aml yn syniad da trefnu profiad gwaith os oes gen ti ddiddordeb mewn maes penodol. Nid yn unig mae'n rhoi syniad realistig iti o'r gwaith a chyfle i siarad efo pobl sy'n gwneud y gwaith yn barod, ond mae hefyd yn dy helpu wrth ymgeisio am gymhwyster addysgol neu wneud cais am swydd yn nes ymlaen.
Fe elli di ddod o hyd i gyflogwyr drwy edrych yn y Yellow Pages dan y gwahanol sectorau diwydiant, neu edrych yn y cyfeirlyfrau busnes sydd ar gael yn y swyddfa gyrfâu. Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn derbyn pobl ar brofiad gwaith rywbryd neu'i gilydd, felly mae'n werth ffonio'r cyflogwr yn uniongyrchol a gofyn a ydyn nhw'n fodlon gadael iti arsylwi neu gysgodi rhai o'u gweithwyr.
Os wyt ti wedi dod o hyd i gyflogwr ond nad ydyn nhw'n gallu cynnig lle iti am y cyfnod llawn roeddet ti wedi'i obeithio, yna gofyn am gyfnod llai ac awgrymu ychydig ddyddiau'n unig gan ei bod yn debyg o fod yn haws iddyn nhw dderbyn rhywun am gyfnod llai.
Os wyt ti'n dal i gael problemau, gofyn am awgrymiadau gan dy gydlynydd gyrfâu neu'r swyddfa gyrfâu.
|