Beth mae cyflogwyr Cymru ei eisiau?
Gofynnodd prosiect Sgiliau Dyfodol Cymru i dros 5,000 o gyflogwyr pa sgiliau yn eu tyb nhw fyddai’n bwysig yn y dyfodol.
Y deg sgil uchaf oedd:
- TG sylfaenol
- Deall anghenion cwsmeriaid
- Y gallu i ddysgu
- Cyfathrebu
- Gwybodaeth am gynnyrch
- Rheoli eich dysgu eich hun
- Gallu gweithredu ar eich liwt eich hun
- Gweithio fel aelod o dîm
- Llythrennedd
- Datrys problemau
Gelli ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith nawr drwy:
- Fynd ar brofiad gwaith
- Gwneud gwaith gwirfoddol
- Bod yn aelod o dîm
- Defnyddio cyfrifiadur (nid dim ond ar gyfer gemau!)
- Cymryd rhan mewn cerddoriaeth neu ddrama
- Cael gwaith rhan-amser
- Cymryd rhan mewn chwaraeon
- Trefnu trip neu wyliau
- Bod yn aelod o glwb
- Gwobr Dug Caeredin neu gynllun tebyg
- Cyflwyno/rhoi sgwrs gerbron grwp
- Gofalu am ffrindiau neu aelodau iau/hyn o’r teulu
- Gweithio’n galed yn yr ysgol neu’r coleg!
- Ymgeisio am gymhwyster Sgiliau Allweddol
Ìý
|