Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Uwch
Ìý
Cyllid

Mae grantiau wedi cael eu diddymu a’u disodli gan fenthyciadau. Cyflwynwyd ffïoedd hyfforddi. Faint mae hyn i gyd yn ei gostio ac a elli di gael help?

Ffïoedd Hyfforddi

Ar hyn o bryd, gallet ti, neu dy rieni, dalu hyd at £1075 y flwyddyn tuag at gost dy ffïoedd hyfforddi.

Mae faint yr ydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar incwm y teulu. Os nad oes llawer o incwm, efallai na fydd rhaid i chi dalu o gwbl.

Os yw incwm dros ben dy rieni yn:
- llai na £20,000 y flwyddyn yna ni fydd rhaid i ti dalu o gwbwl h.y. fe fydda’r AALl yn talu costau llawn y cwrs;
- rhwng £20,000 a £29784 bydd angen i ti dalu rhywfaint;
- mwy na £29,784 yna byddangen i ti dalu’r £1075 yn llawn.

Help gyda ffioedd a benthyciadau

Bydd Adran Dyfarniadau Nyfyrwyr dy AALl yn bwrw cyfrif o’r swm y bydd rhaid i ti neu dy rieni ei dalu tuag at ffioedd hyfforddi, os bydd rhaid talu o gwbwl, a faint o fenthyciad y mae gen ti hawl iddo.

Dylet wneud cais i dy AALl am asesiad ariannol ar ol dyddiad cau UCAS, sef Ionawr 15. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion a cholegau yn gwahodd arbenigwr o’r AALl i siarad â’r myfyrwyr ac i rannu’r ffurflenni.

Benthyciadau

Mae’r Student Loans Company yn rhoi benthyg arian i fyfyrwyr ar gyrsiau ‘dynodedig’ (bron i bob gradd HND) tuag at eu costau byw.

Gelli fenthyg tri chwarter o uchafswm y benthyciad sydd ar gael heb ystyried incwm y teulu. Gwneir prawf moddion yn erbyn y chwarter sy’n weddill felly mae cael benthyg yr elfen hon neu beidio yn dibynnu ar incwm. Os wyt ti neu dy rieni’n gorfod talu’r ffi llawn o £1,075 mae’n anhebyg y byddet yn gymwys i fenthyg y chwarter sy’n weddill.

Cyfanswm y benthyciad sydd ar gael i fyfyrwyr ar hyn o bryd yw:

Blwyddyn Lawn
Blwyddyn Derfynol
Myfyrwyr yn byw oddi cartref – Llundain
£4,590
£3,980
Myfyrwyr yn byw oddi cartref – unrhyw fan arall
£3,725
£3,230
Myfyrwyr sy'n byw gyda’u rhieni
£2,950
£2,575

Ad-dalu dy fenthyciad

Ni fydd rhaid i ti ddechrau talu dy fenthyciad yn ôl nes y bydd gen ti swydd a dy fod ti’n ennill mwy na rhyw swm penodol - tua £10,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

Nid yw’n fwriad gan y Student Loan Company i wneud elw ar dy fenthyciad - mae graddfeydd yr adaliadau wedi eu cysylltu â chwyddiant. Mae’n debygol y bydd yr ad-daliadau yn is na’r hyn rwyt yn ei ddisgwyl, e.e. os wyt yn ennill £11,000 y flwyddyn dy daliad misol yw £7, os wyt yn ennill £12,000 yna £15 fydd dy daliad misol. Yn amlwg os wyt ti’n ennill mwy yna fe fydd yn ad-daliadau’n uwch felly os wyt yn ennill £20,000 y flwyddyn, fe fyddi’n talu £75 y mis. Gall dy AALl roi gwybodaeth i ti am fenthyciadau myfyrwyr pan yn anfon ffurflen gais am fenthyciad atat.

Ffynonellau cyllid eraill

Efallai y gallet ti gael arian ychwanegol drwy:

  • Nawdd
  • Ysgoloriaethau
  • Cronfeydd mynediad a benthyciadau caledi
  • Dyfarniadau drama a dawns
  • Lwfansau i fyfyrwyr ag anghenion arbennig
  • Benthyciadau Datblygu Gyrfa (oedolion)

Gall dy Ganolfan Gyrfaoedd leol ddweud mwy wrthyt am y rhain.

Cyrsiau Meddygol a Gofal Iechyd

Mae’r NHS yn rhoi bwrsariaethau ar gyfer rhai cyrsiau AU fel nyrsio, ffisiotherapi a blynyddoedd olaf cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth.

Os cynigir lle i ti ar gwrs y mae’r NHS yn rhoi bwrsariaeth ar ei gyfer, bydd y brifysgol yn rhoi gwybod i ti.

Ìý

Lincs

Hefyd...
Pa bwnc/bynciau?
Pa brifysgol?

Cam nesa...
Swyddi
Sgiliau ar gyfer gwaith


randomly included tips

randomly included tips



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý