Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Bellach
Ìý


Beth Nesa Ar Ôl TAG Uwch?

Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol gyda lefel TAG Uwch yn mynd i brifysgol, ond mae lleiafrif, tua 10% i 15%, yn dechrau gweithio.

Erbyn hyn does yna ddim marchnad swyddi benodol i’r rhai sydd â lefel TAG Uwch. Mae pethau wedi newid dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf a dim ond graddedigion sy’n cael eu derbyn i’r rhan fwyaf o broffesiynau erbyn hyn - cyfrifwyr, llyfrgellwyr, gwithwyr cymdeithasol. Ar yr un pryd, mae’r twf yn nifer y graddedigion yn golygu fod pobl ifanc â lefel TAG Uwch yn gorfod cystadlu yn erbyn graddedigion am swyddi lle nad oes rhaid cael gradd. Efallai hefyd y byddi di’n cystadlu yn erbyn pobl ifanc sy’n ymadael â’r ysgol yn 16/17 oed sy’n mynd i fewn i swyddi drwy Brentisiathau Modern a Swyddi Dan Hyfforddiant.

Y ffactorau positif i'r rhai sy'n gadael yr ysgol gyda Lefel A yw:

  • bydd cyflogwyr yn gweld fod gen ti’r gallu a’r penderfyniad i ennill cymhwyster lefel uchel fel lefel TAG Uwch
  • fe fydd di’n hun ac yn fwy aeddfed na’r rhai sy’n ymadael â’r ysgol ym Mlwyddyn 11
  • rwyt yn gwybod dy ganlyniadau TGAU - yr unig ganlyniad rwyt yn disgwyl amdano yw dy Lefel TAG Uwch
  • nid yw rhai swyddi, fel nyrsio a’r heddlu, yn agored i rai dan 18 oed
  • fe fydd gen ti well syniad mwy na thebyg o’r hyn yr wyt am ei wneud na rhai iau sy’n ymgeisio am swyddi
  • fe fyddi di’n llai tebygol o ymadael na rhywun â gradd
  • fe fyddi di’n rhatach na rhywun â gradd!

Y swyddi cyntaf mwyaf cyffredin y mae ymadawyr lefel TAG Uwch/AS yn mynd iddynt yw:

  • Clercaidd a gweinyddol
  • Gwerthu a dosbarthu adwerthol
  • Lletygarwch ac arlwyo
  • Gweithwyr/cyfosodwyr cynhyrchu, gweithredwyr peiriannau ym maes gweithgynhyrchu
  • Technegwyr dan hyfforddiant mewn peirianneg gweithgynhyrchu, crefftwyr a thechnegwyr adeiladu, cyfrifeg, fferylliaeth
  • Maes iechyd – e.e. hyfforddiant fel nyrs, technegwyr a gwaith gofal

Ìý

Lincs

Hefyd...
GNVQ
Cyrsiau AB eraill

Cam nesa...
Addysg Uwch
Swyddi


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý