Â鶹Éç

Capeli, tai te a gauchos

Michael D Jones. O gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Rhan 2: Grahame Davies yn ysgrifennu am y Cymry a ymfudodd i Batagonia yn 1865.

Y Wladfa: Croeso ar y paith

Michael D Jones, o'r Bala yng Ngogledd Cymru, fu'r Moses a arweiniodd - neu a anfonodd yn hytrach, am nad ymfudodd Jones ei hunan byth mewn gwirionedd - ei bobl i Wlad yr Addewid yn y Wladfa. Fel cenedlaetholwr Cymreig cynnar, hybodd yn frwd y weledigaeth o Gymru Gymraeg, anghydffurfiol, rydd ym Mhatagonia.

Roedd e'n gwybod bod arolygon Prydeinig wedi dynodi Patagonia yn anialwch na ellid byth cynnal pobl. Ond, gyda hunanfeddiant sbin ddoctor, lliwiodd ef a'i gyd ddelfrydwr Lewis Jones - a wnaeth ymfudo - dros y ffaith yma, a chyflwynon nhw ddelwedd llawer mwy deniadol i'r darpar ymfudwyr.

Yr ogofâu ym Mhorth Madryn lle dywedir i'r Cymry
lochesu wedi cyrraedd yr Ariannin am y tro cyntaf.

Erbyn Mai 1865, daethpwyd o hyd i ddigon o arloeswyr er mwyn i'r Mimosa hwylio. Y Bala oedd cartref y prosiect, ac mae'n cynnal dathliad bob blwyddyn - 'Gŵyl y Glaniad' - i nodi dyddiad glaniad cyntaf yr ymfudwyr ar 28ain Gorffennaf.

Serch hynny, doedd y prosiect hwn ddim yn gyfyngedig i ardaloedd gwledig yn unig, gan fod llawer o'r arloeswyr wedi dod o ardaloedd diwydiannol newydd cymoedd De Cymru, a phan lanion nhw ym Mhorth Madryn, ar lannau'r Iwerydd yn yr Ariannin, gwelon nhw fod eu sgiliau, fel dynion rheilffyrdd neu löwyr, yn hollol ddiwerth yn yr anialwch.

Prin y gwnaethon nhw oroesi. Bron â newynu ar adegau, cawson nhw eu hachub weithiau gan lywodraeth yr Ariannin. Ond dalion nhw ati a llwyddon nhw gartrefu yn nyffryn Chubut, lle torrodd afon sianel gul drwodd i'r anialwch o'r Andes. Penderfynodd yr ymfudwyr roi'r enw Camwy i'r afon.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Dysgu

Hen arian

Ar daith

Adnodd Hanes i blant oed cynradd am bobl a ymfudodd i bedwar ban byd.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.