Â鶹Éç

Llongau yn nociau Caerdydd ar ddechrau'r 20fed ganrif

Somaliaid yn Nhrebiwt

Ar ei anterth, datblygodd ardal dociau Caerdydd, i'r de o ganol y ddinas, i fod yn un o'r porthladdoedd prysuraf ym Mhrydain a oedd yn allforio glo stêm i bob cwr o'r Ymerodraeth yn 1913.

Arferai cwmnïau llongau gyflogi morwyr lleol yn yr howldiau glo lle cedwid glo ar gyfer y llongau oedd yn teithio i'r Gorllewin Pell. Daeth llongwyr o bob cwr o'r byd i wybod bod digon o waith ar gael yn y porthladd Cymreig oedd yn dal i dyfu a byddai nifer yn dychwelyd i Gaerdydd dro ar ôl tro, rhai yn ymgartrefu yno a phriodi menywod lleol, eraill yn dychwelyd i'w mamwlad a'u teuluoedd pan oedd hynny'n bosibl.

Erbyn y 1940au roedd mwy na yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr yn Nhrebiwt. Cafodd y boblogaeth yma - o ddynion a fewnfudodd yn bennaf, eu denu i Gaerdydd gan waith, ac fe ddaethon nhw â'u diwylliant, eu traddodiadau, eu crefydd a'u harferion gyda nhw.

Somalia

Mae Somalia'n gorchuddio pen Horn Affrica yn Nwyrain Affrica. Mae'n ffinio gyda Kenya yn y de, Ethiopia yn y gorllewin, Djibouti yn y gogledd-orllewin, Gwlff Aden yn y gogledd a Chefnfor yr India yn y dwyrain.

Yn yr 1880au roedd Prydain a'r Eidal wedi meddiannu gwahanol rannau o Somalia, ac fe barhaodd o dan reolaeth drefedigol hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1950 roedd y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio dros ganiatáu annibyniaeth i Somalia, ac ym 1960 fe ffurfiwyd y Weriniaeth Somali.

Ar ôl dim ond naw mlynedd cafodd y llywodraeth sifil ei dymchwel gan Siad Barre mewn gwrthryfel militaraidd. Dechreuodd gwrthwynebiad arfog mewnol i'w lywodraeth yng ngogledd y wlad yn yr wythdegau hwyr, ac er iddo gael ei atal mewn modd creulon, ymunodd grwpiau eraill oedd â chefnogaeth y clan â'r ymdrech, gan yrru Siad Barre allan yn dechrau 1991.

Ym 1972 cafodd yr iaith Somali, gyda llawysgrifen wedi ei seilio ar y wyddor Rhufeinig ei mabwysiadu fel iaith swyddogol y wlad gan gymryd lle'r ieithoedd trefedigol Saesneg ac Eidaleg mewn llywodraeth ac addysg.

Mae'r bobl Somali wedi eu rhannu i nifer o lwythau, grwpiau sy'n olrhain eu llinach cyffredin yn ôl i un tad. Mae'r llwythau hyn, sydd, yn eu tro, wedi eu isrannu'n nifer o is-lwythau, yn uno ar lefel uwch i ffurfio teuluoedd-llwythau. Mae'r diwylliant Somali, gyda thraddodiad crwydrol yn cael ei arfer gan tua hanner y boblogaeth, yn annog teithio. Mae yna ddihareb Somali sy'n dweud, "Nid oes gan y person sydd heb deithio lygaid i weld". (Abdi Agli, Caerdydd)

Y Somaliaid yng Nghaerdydd

Y gymuned Somali yng Nghaerdydd yw'r gymuned fwyaf yn y DU o Somalïaid sydd wedi eu geni ym Mhrydain. Cawsant eu denu i Gaerdydd yn wreiddiol fel morwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn fuan wedi agor camlas Suez, i weithio yn y dociau llewyrchus.

Daeth y dynion ifanc yma fel morwyr, nid fel ffoaduriaid na gweision, wedi eu gyrru gan yr awydd i ennill arian i brynu mwy o dda byw nôl yn Somalia. Ymgartrefodd rhai ohonyn nhw yma a phriodi gwragedd lleol, er i eraill ddychwelyd adref o bryd i'w gilydd i ymweld â'u teuluoedd, gan fyw mewn lletyau yn ystod eu hamser ar y tir. Câi'r lletyau yma'u rhedeg gan Somaliaid ac roedden nhw'n cynnig i'r morwyr ar ymweliad hwylustod iaith ac arferion cyfarwydd.

Oherwydd presenoldeb trefedigol Prydain yn Somalia roedd yn bosibl i forwyr weithio a byw yn y DU. Fel arfer roedd digon o waith ar gael ar gyfer y morwyr yn y dociau, ac yn fwy diweddar yn y diwydiant dur, er eu bod yn aml yn llenwi swyddi nad oedd gweithwyr gwyn eu heisiau, unai ar yr agerfadau crwydrol lle roedd amodau gwaith yn galed, neu yn y llynges fasnach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd y morwyr Prydeinig eu symud i'r Llynges Frenhinol. Nid oedd yn fywyd hawdd, a gallai cyfnodau o argyfwng economaidd olygu trychineb: gwelodd y Dirwasgiad Mawr gannoedd o forwyr Somali'n marw o newyn oherwydd prinder gwaith.

Gyda chychwyn y rhyfel cartref yn Somalia yn y 1980au, cafodd morwyr o'r gymuned sefydledig hon ganiatâd i ddod â'u teuluoedd draw. Mae cymunedau Somali mawr hefyd yn Llundain a Manceinion ond yr un yng Nghaerdydd yw'r hynaf.

Mae crefydd yn rhan hanfodol o fywyd Somali. Does dim lle i gyfaddawdu yn y grefydd moslem suni, er bod ambell wrthdrawiad rhwng crefydd a diwylliant - mae'r boblogaeth Somali yn y DU yn fwy tebygol o ddathlu penblwyddi, sydd ddim fel arfer yn digwydd yn Islam. Mae gweddïo ar ddydd Gwener yn bwysig iawn. Mae nifer o bobl ifanc a theuluoedd yn mynd i'r Mosg Al-Noor; cafodd yr adeilad hwn ei adeiladu ar safle Mosg Stryd Peel. Cafodd Mosg Stryd Peel ei adeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond fe'i chwalwyd fel rhan o ailddatblygiad Trebiwt ym 1988.


Mudo

Mudo

Pwyliaid Penrhos

Clip fideo yn dangos Pwyliaid a ymgartrefodd ger Pwllheli.

Dysgu

Hen arian

Ar daith

Adnodd Hanes i blant oed cynradd am bobl a ymfudodd i bedwar ban byd.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.