麻豆社

Harri Morgan

top
Fflag y M么r-ladron

Hawdd credu mai dymuniad unrhyw forwr wedi iddo farw fyddai cael ei gladdu yn nyfnder y m么r. Gellid meddwl mai dyna oedd dymuniad y m么r-leidr enwocaf un, Capten Harri Morgan, ond bu'n rhaid i'w gorff marw ddisgwyl dros dair blynedd cyn i'r freuddwyd honno gael ei gwireddu...

Y m么r-leidr enwocaf un

Harri Morgan
Harri Morgan

Roedd Harri Morgan yn f么r-leidr o fri, gyda nifer o'i hynafiaid yn enwog hefyd - cafodd un ohonynt ei ethol yn Is-lywodraethwr Ynys Providence a daeth un arall yn Lefftenant-Lywodraethwr Jamaica.

Ganwyd Harri Morgan yn Llanrhymni, Sir Fynwy, tua 1635. Credir ei fod yn byw yn Neuadd Llanrhymni am gyfnod. Pan oedd tua ugain oed hwyliodd i'r Carib卯 gydag un o fyddinoedd Cromwell o dan arweiniad yr Is-lyngesydd Penn, tad William Penn, sylfaenydd talaith Pennsylvania.

Bu'n rhan o frwydrau ffyrnig yn erbyn y Sbaenwyr, a gwnaeth y fath argraff ar y swyddogion fel y cafodd ei long ei hun.

Yn 1659 cipiodd long o Ffrainc a'i meddiannu gan ymosod yn llwyddiannus ar Santiago del Hispaniola. Arbedodd fywyd y Llywodraethwr, nid oherwydd unrhyw sentiment ond yn hytrach am lwgrwobr o 60,000 darn arian.

Ymhen tair blynedd, ymosododd yn llwyddiannus ar Santiago del Cuba ac yna ymlaen ag ef i Campeache lle dinistriodd lynges o 14 o longau'r gelyn. Y tro hwn llwyddodd i gipio 150,000 o ddarnau arian.

Gorchestion morwrol a milwrol

Neuadd Llanrhymni
Neuadd Llanrhymni

Yn 1665 trodd ei sylw at Gulfor Mecsico a chael cymorth y brodorion Indiaidd yno i ymosod ar Villa de Mosa.

Siwrnai seithug fu honno gan nad oedd yno unrhyw beth gwerth ei gipio. Yna, ar 么l chwalu dros 300 o filwyr Sbaenaidd a fu'n ddigon ff么l i ymosod ar yr ychydig dros gant o ddynion oedd gan Morgan, ymosododd ar drefi Sbaenaidd ar hyd arfordir De America yn cynnwys dinas Granada, eto gyda chymorth yr Indiaid lleol.

Dychwelodd Morgan i Jamaica i gael ei ddyrchafu'n Is-lyngesydd, ac yntau ond yn 30 oed. Erbyn 1668, ef oedd pennaeth herwlongwyr y Carib卯.

Pan gododd ofnau y byddai'r Sbaenwyr yn ymosod ar Jamaica, dyrchafwyd ef yn Llyngesydd a chanddo lynges o ddwsin o longau a 700 o longwyr.

Trysor y Caribi

Hen Ddinas Panama
Hen Ddinas Panama

Penderfynodd ymosod ar Puerto Principe, ail ddinas Ciwba, ac oddi yno hwyliodd Morgan yn ei flaen am Hispaniola gan dderbyn croeso mawr yn Port Royal.

Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn ymosod ar eiddo Sbaenaidd ar hyd arfordir Fflorida a Thecsas cyn troi am Portobello. Yno, lle'r oedd amddiffynfeydd cryfaf y Sbaenwyr, y trefnodd Harri ei ymosodiad mwyaf eofn.

Cipiodd gaer ar 么l caer. Cymerodd dros bythefnos iddo ef a'i ddynion ysbeilio'r porthladd a chredir iddo drechu dros dair mil o Sbaenwyr. Dychwelodd Morgan i Port Royal gyda thomennydd o drysor ac arian.

Cafodd gadw pump y cant o'r ysbail honno ond, wrth gwrs, y Brenin a g芒i'r ganran uchaf.

Yn 1666 cafodd Morgan ddihangfa ffodus wrth i bowdwr ffrwydro'n ddamweiniol tra oedd yn trefnu ymosodiad ar y Ffrancwyr yn Cartagena. Newidiodd Morgan ei feddwl ac ymosod yn hytrach ar arfordir Feneswela, gan anelu am Maracaibo. Ymlaen ag ef wedyn i Gibraltar gerllaw.

Yn y fan honno, ymddangosai fel pe bai llwyddiant y Capten Harri Morgan wedi dod i ben.

Dewrder a Hyfdra

Portread o Harri ar botel rym Captain Morgan
Portread o Harri ar botel rym Captain Morgan

Caewyd llongau Morgan i mewn gan warchae a gr毛wyd gan fflyd Sbaenaidd yn y culfor. Collodd drigain o'i ddynion, ond profodd ei allu a'i gyfrwystra trwy dwyllo'r Sbaenwyr ei fod am ymosod ar eu caerau o'r tir mawr.

Yn hytrach, yn nhywyllwch nos, hwyliodd ef a'i lynges allan i'r m么r mawr dan drwynau'r gelyn a dychwelodd i Port Royal gyda 250,000 o ddarnau aur. Doedd dim diwedd ar hyfdra na dewrder Morgan! Ceisiodd ef a mil o'i ddynion gipio Old Providence ac ildiodd y Llywodraethwr ar ei union, heb i'r un gwn gael ei danio.

Ond ystyrir mai ei gamp fwyaf fu croesi Penrhyn Panama i ymosod ar y ddinas o'r un enw gyda mil o filwyr a morwyr ar droed.

Roedd 2,400 o filwyr Sbaenaidd yn disgwyl amdanynt yn Ninas Panama. Ymosododd Morgan ar 21 Ionawr 1671. Cipiwyd y ddinas heb i'r Cymro golli ond pump o'i ddynion tra oedd y gelyn wedi colli 400 o'u dynion hwy. Unwaith eto, wedi iddo gyrraedd yn 么l i Port Royal, derbyniodd Morgan ganran o'r ysbail, sef tua 7,500 darn o aur.

Yn anffodus i Morgan, yn ystod yr ymosodiad ar Banama, daeth Prydain a Sbaen i gytundeb a chafwyd cadoediad. Danfonwyd y Cymro beiddgar i Lundain i wynebu llys barn. Erbyn hyn roedd hanes ei orchestion wedi ei droi yn destun chwedl.

Derbyniodd groeso tywysogaidd wrth iddo ddisgwyl am ymron ddwy flynedd i'w achos gael ei ddwyn gerbron y llys. Pan ymddangosodd o flaen Siarl II ym mis Tachwedd 1673 llwyddodd i ddadlau ei achos yn llwyddiannus. Yn wir, bu'r Capten Harri Morgan yn gyfrifol am lenwi pocedi'r Brenin, ac yn hytrach na'i gosbi fe'i hurddwyd yn Farchog a'i wneud yn Is-lywydd Jamaica. Gadawodd Lundain am y Carib卯 ar ddechrau 1675.

Cofio Llanrhymni

Capten Jack Sparrow
Capten Jack Sparrow

Yn Jamaica enwodd un o'i blanhigfeydd yn Llanrhymni, er cof am fan ei eni, ond bu ffrae rhyngddo 芒 rhai o w欧r mawr yr ynys, yn cynnwys y Llywodraethwr, a dygwyd ef unwaith eto o flaen llys ar gyhuddiad o gynllwynio gyda'r Ffrancwyr. Unwaith eto, penderfynwyd nad oedd ganddo gyhuddiad i'w ateb a rhyddhawyd ef.

Yn 1680 fe'i dyrchafwyd yn Llywodraethwr Jamaica ac yna cafwyd datblygiad annisgwyl. Penderfynodd yr archysbeiliwr wahardd m么rladrata a chynigiodd bardwn i'r holl f么r-ladron dim ond iddynt dyngu llw i roi'r gorau i ysbeilio. Doedd ganddo ddim trugaredd at y rhai a wrthododd y cynnig. Dedfrydwyd y rheiny i'w crogi.

Erbyn diwedd ei oes credir fod Morgan wedi casglu cynifer 芒 miliwn o ddarnau aur, a hynny'n bennaf rhwng 1669 a 1671. Er hynny, roedd wedi gwario cymaint fel iddo fynd i ddyled. Erbyn hyn, roedd yn yfed yn drwm iawn hefyd. Enwyd diod rym enwog ar ei 么l, gyda'i lun yn ymddangos ar y label.

Bu farw Harri Morgan yn 1688 o'r dropsi - neu oedema - a gormod o alcohol. Yn ei angladd taniwyd pob gwn yn yr harbwr yn deyrnged iddo wrth i f么r-leidr enwoca'r byd gael ei gladdu ar dir sych. Ond, 'rhagluniaeth fawr y nef, mor rhyfedd yw'.

Ar 7 Mehefin 1692 bu daeargryn cryf a llusgwyd mynwent Port Royal i'r m么r gan don anferth - enghraifft gynnar o tsunami, mae'n debyg. Llusgwyd gweddillion Harri Morgan i'r eigion - tynged addas a chymwys i un a fu'n teyrnasu'r tonnau am flynyddoedd.

Fe erys ei ddylanwad o hyd. Yn wir credir mai ef yw ysbrydoliaeth cymeriad ffuglennol Capten Jack Sparrow yn ffilmiau hynod boblogaidd Disney, 'Pirates of the Carribean. Ac ym mis Awst 2011, cred Archaeolegwyr o Brifysgol Texas State eu bod wedi darganfod gweddillion o un o longau Harri a suddodd ger y safle yn 1671. Roedd e ar ei ffordd i ddinas Panama gyda'i ddynion. Dywed yr archaeolegwyr eu bod wedi darganfod rhan o'r llong a blychau cargo a chistiau'r m么r-ladron.

Lyn Ebenezer


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.