麻豆社

Gwylliaid Mawddwy

top
Bwlch Oerddrws -un o guddfannau'r Gwylliaid

Wrth deithio yng nghyffiniau Mawddwy yn y cyfnos llwyd olau, hawdd dychmygu herwyr yn cuddio y tu 么l i bob llwyn a choeden a chlawdd yn disgwyl am ysbail. A dyna sut oedd pethau yn yr ardal yn dilyn gwrthryfel Owain Glynd诺r...

Herwyr y Coedwigoedd

Pont y Bwlfa -un arall o guddfannau hoff y Gwylliaid

Mawddwy oedd cadarnle'r Gwylliaid Cochion yn y 16g, criw o herwyr a fanteisiodd ar y lleoliad a'r dirwedd i ysbeilio a dwyn - a phan oedd angen am hynny, lladd. Dywed y chwedl bod ganddynt walltau coch ond credir bod y gyfeiriadaeth at y 'coch' yn eu henw yn dod o un o'u harweinwyr, John Goch.

Oherwydd bod Mawddwy yn cwmpasu dau blwyf neu ddwy diriogaeth, a'r rheiny o dan rym awdurdodau a chyfreithiau gwahanol, peth hawdd i'r Gwylliaid oedd taro yn un plwyf a ffoi i'r llall.

Ond pwy oedd y Gwylliaid hyn a greodd y fath arswyd ac anhrefn? Gwerinwyr oedd y mwyafrif ohonynt, rhai oedd wedi cefnogi Glynd诺r gydag arfau cyntefig fel pladuriau a chrymanau, ond roedd yna hefyd f芒n uchelwyr yn eu plith.

Yr hyn oedd yn gyffredin ymhlith y Gwylliaid oedd eu bod bellach yn ddi-eiddo. Doedd ganddynt fawr o ddewis ond byw fel herwyr yn y coedwigoedd.

Ymateb yr awdurdodau

Dyma fryniau Sir Feirionnydd lle mae mwynder a llawenydd, yn eu golwg nid oes galon, nac un o'r cuchiog Wylliaid Cochion.

T. H. Parry Williams

Penderfynodd yr awdurdodau roi diwedd ar yr ysbeilio. O ganlyniad i Ddeddf Uno 1536, unwyd y ddwy diriogaeth, ond ni chafodd hyn fawr o effaith.

Yna, ailbenodwyd Lewis Owen, neu Lewys ab Owain, o Blas-yn-dre, Dolgellau, yn Siryf Meirionnydd yn 1554. Cafodd ef a'i ddirprwy, John Brooke o Fawddwy, gyfarwyddyd i daro'r Gwylliaid yn galed, a dyna a wnaethant.

Carcharwyd a chrogwyd y Gwylliaid yn ddidrugaredd, ond dechreuodd y Barwn Owen bechu yn erbyn y m芒n uchelwyr lleol ac ar 12 Hydref 1555 fe'i llofruddiwyd.

Cyhuddwyd nifer o bobl naill ai o'r llofruddiaeth neu o gynorthwyo'r llofruddio, yn eu plith John Goch, John ap Llywelyn ap Rhys, Ellis ap Huw a Lowri, merch Gruffydd Llwyd o'r Brithdir. Cafodd John ap Llywelyn ap Rhys ei glirio o'r drosedd ond cafwyd Lowri'n euog a'i dedfrydu i'w chrogi.

Cyfiawnder di-drugaredd

Gan ei bod hi'n feichiog, gohiriwyd y ddedfryd - ac er nad oes unrhyw dystiolaeth i brofi hynny, y tebygolrwydd yw iddi gael ei dienyddio wedi i'r baban gael ei eni.

Cyhuddwyd wyth o bobl o'r brif drosedd, y cyfan ohonynt yn cael eu disgrifio fel iwmyn.

Yn ogystal 芒 John Goch, neu John Goch ap Gruffudd ap Huw, y prif ymosodwr, cyhuddwyd Gruffudd Wyn ap Dafydd ap Gutun o'r Brithdir, Ellis ap Tudur o Nannau, Robert ap Rhys ap Hywel, Siencyn ap Einion a Dafydd Gwyn ap Gruffydd, ill tri o Fawddwy, Morris Goch o Gemaes a Ieuan Thomas o Lanwddyn.

Disgrifiwyd yn y Sesiwn Fawr sut y dioddefodd y Barwn Owen anaf marwol pan drywanodd John Goch ef 芒 gwaywffon. Ymhlith arfau rhai o'r lleill roedd bilwg, cledd, dagr, bwa a saethau.

Ymddengys mai m芒n uchelwyr oedd yr ymosodwyr, ond c芒nt eu hadnabod o hyd fel aelodau o'r Gwylliaid Cochion.

Dienyddio - a dial

Mynydd Dugoed lle cleddir y Gwylliaid
Mynydd Dugoed- man claddu posibl y Gwylliaid

Prin yw'r dystiolaeth ysgrifenedig, ond dywed traddodiad mai dial oedd wrth wraidd llofruddio'r Barwn. Dywedir i hwnnw a'i ddynion ymosod ar y Gwylliaid ar noswyl Nadolig 1554 pan honnir i 80 o'r Gwylliaid gael eu crogi o ganghennau'r coed derw ar y Collfryn uwchlaw Rhos Goch.

Roedd un ohonynt, John Goch, yn ifanc iawn ac roedd ei fam wedi ymbil am iddynt arbed ei fywyd. Crogwyd ef ac yna, yn 么l y stori, dinoethodd y fam ei bronnau gan ddweud bod y bronnau hynny wedi rhoi maeth i feibion eraill, meibion a fyddai'n golchi eu dwylo yng ngwaed calon y Barwn.

Does dim tystiolaeth gadarn i hyn ddigwydd o gwbl, ond caiff yr hanes ei adrodd gan Thomas Pennant tua 1770/3 pan ysgrifennodd ei lyfr taith enwog.

Golchi mewn gwaed

Honnir i'r dial ddigwydd ddeng mis yn ddiweddarach. Roedd y Barwn a John Llwyd o Geiswyn wedi bod yn y Trallwng yn trefnu priodas ac ar eu ffordd yn 么l dros Fwlch y Fedwen. Yn sydyn disgynnodd dwy dderwen, y naill y tu blaen iddynt a'r llall o'u h么l - tacteg glasurol.

Taniwyd myrdd o saethau atynt a thrawyd y Barwn ddeg ar hugain o weithiau. Gwireddwyd y felltith wrth i frodyr John Goch ymolchi yng ngwaed y Barwn a chodwyd croes yno i nodi'r fan lle bu'r Barwn farw. Enwyd y lle yn Ffridd Groes.

Erys hanes y Gwylliaid yn fyw o hyd yn y fro. Ceir nifer o enwau lleoedd sydd wedi goroesi. Un yw Cae Ann, lle dywedir i un o'r Gwylliaid, er mwyn profi ei allu 芒 bwa a saeth, daro morwyn o'r enw Ann yn farw, a hynny o bellter anhygoel.

Ym Mraichlwyd wedyn, dywedir i Wylliad brofi ei fedrusrwydd drwy daro, o'i guddfan ar draws y cwm, gosyn yr oedd hen wraig yn ei gario dan ei chesail.

Dywedir bod y Gwylliaid yn arfer claddu eu meirw ar fynydd Dugoed, lle mae olion hen feddau i'w gweld o hyd; dywedir mai yno, mewn man o'r enw Pylla'r Glwferiaid, y byddai'r Gwylliaid yn trin crwyn anifeiliaid.

Credir mai enw gwreiddiol Pont y Byllfa oedd Pont y Babellfa, ac mai yno y byddai'r Gwylliaid yn gwersylla. Ar Fynydd Llwyngwilym wedyn, mewn man a elwir Carneddi'r Gwragedd, ceir Pont y Gwylliaid, sef pont a ddefnyddid gan y Gwylliaid i yrru gwartheg wedi eu dwyn o ardal Llanwddyn drosti.

Ceir hefyd Ffynnon y Gwylliaid a Llety'r Gwylliaid, y naill ar Fwlch y Groes a'r llall ar Fwlch Oerddrws.

Straeon i blant am y Gwylliaid (y Lolfa)
Straeon i blant am y Gwylliaid (y Lolfa)

Cofio'r Gwylliaid

Un o'r enwau mwyaf diddorol yw Llety'r Lladron ar Fwlch Oerddrws, lle byddai'r Gwylliaid, yn 么l y traddodiad, yn ymosod ar deithwyr blinedig wrth iddynt ddringo'r rhiw serth.

Honnir mai yn Henllys ger y Dugoed Isaf y trigai un o benaethiaid y Gwylliaid a cheir Palas y Gwylliaid, uwchlaw Ceunant Du a Stryd y Gwylliaid a Sarn y Gwylliaid gerllaw.

Mae'r hanesion am y Gwylliad olaf i'w ladd yn amrywio. Yn 么l un chwedl, digwyddodd hynny ger Caban Iddew a dywedir i'r Gwylliad druan gael ei lofruddio gan ei frawd.

Dywed stori arall mai yng Ngheunant y Gwylliaid y lladdwyd yr olaf. A dywed stori arall eto i'r olaf gael ei ddal a'i ladd yn sgubor y Gwanas wedi iddo dderbyn lletygarwch g诺r o'r enw Si么n Rhydderch.

Bradychwyd y Gwylliad gan ei westeiwr, ac am ganrifoedd wedyn bu dywediad mewn bri yn y cylch yn disgrifio rhywun 'mor ffals 芒 Si么n Rhydderch'.

Lyn Ebenezer.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.